Bu datganoli yn y glorian yr wythnos hon wrth i sawl un nodi/dathlu/diawlio chwarter canrif ers symud rhyw gymaint o rym gwleidyddol o Lundain i Gaerdydd.

Roedd pawb yn eithaf cytûn nad yw cael Senedd yn y Bae wedi arwain at ddatrys problemau iechyd a thlodi cymharol y genedl.

Ond mae yna ddadl bod datganoli wedi cryfhau’r syniad o Gymru fel cenedl go-iawn.

Mae’r Bobol Bositif yn dadlau bod y Cymry yn fwy cefnogol i’r iaith Gymraeg ers etholiad cynta’r Cynulliad yn 1999.