Cyfres newydd yn bwrw golwg dros y sîn greadigol ifanc yng Nghymru yw Y Sîn.

Digon tila yw’r sylw wedi bod i’r byd celfyddydol ers sawl blwyddyn bellach. Cawsom gyfresi safonol fel Y Sioe Gelf a Pethe yn y gorffennol ond bu bwlch mawr yn y maes hwn ers tro byd.