Diolch i Wyn Jones am ei sylwadau am gyfres Côr Cymru [ ‘Cwyno am Côr Cymru ar S4C’, Golwg 02/05/24].

Ac eithrio’r Eisteddfod Genedlaethol, mae’n arferol i gôr berfformio darnau mewn sawl iaith mewn cystadlaethau corawl.

Yn ôl amodau’r gystadleuaeth, gofynnir i’r corau ganu o leiaf un darn yn yr iaith Gymraeg ac ni chaniateir mwy nag un darn yn yr iaith Saesneg.