‘Bara,’ sibrydodd Khalil, a gallwn glywed y wên yn ei lais.

Roedd hi’n nos, a’r babell yn gartref newydd annigonol ond cwbl allweddol hefyd. Dawnsiai cysgod y goelcerth y tu allan ar y cynfas, a gallwn weld ychydig o wyneb fy mab wrth iddo sibrwd. Byddai’n cyrlio ei gorff dan ei flanced, yn union fel yr arferai wneud yn fy nghroth ugain mlynedd yn ôl.

‘Cig!’ atebais innau.