Mae dwy o Abertawe yn gwerthu eu diodydd yn y Ffindir, Seland Newydd a Singapore…

Wrth i fwy a mwy o bobol ddweud ‘dim diolch’ i alcohol, mae un cwmni o’r de’n mynd o nerth i nerth.

Mae Drop Bear Beer Co. yn gwneud cwrw crefft di-alcohol yn Abertawe ers 2019, ac maen nhw newydd ddechrau bragu ar safle newydd – bragdy di-alcohol mwyaf gwledydd Prydain.