Gydag aelodau Llafur Cymru wedi cychwyn pleidleisio ar gyfer eu harweinydd newydd, a fydd maes o law yn olynu Mark Drakeford yn Brif Weinidog, mae Huw Onllwyn wedi holi ugain cwestiwn i’r ddau sydd yn y ras.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 16 Mawrth, ac yma mae Huw yn rhoi atebion Jeremy Miles a Vaughan Gething yn y glorian…
Mae’n debyg fod pob un o ddarllenwyr brwd Golwg yn dilyn y gystadleuaeth ddiddorol a difyr rhwng Vaughan Gething a Jeremy Miles i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.
Neu mae’n bosib nad oes gennych unrhyw ddiddordeb yn y frwydr anniddorol sy’n digwydd ym Mae Caerdydd.
Yr unig beth sy’n sicr yw y byddai modd i’r ymgeisydd buddugol deyrnasu drosom am yr ugain mlynedd nesaf – gan mai Llafur Cymru fydd wrth y llyw am byth – a gan fod y ddau yn ddim ond tua 50 mlwydd oed.
O’r herwydd, penderfynais osod prawf i’r ddau ohonynt. Fe wnaeth y ddau gytuno i ateb ugain cwestiwn gennyf, megis: pam mai chi yw’r dyn gorau ar gyfer y swydd; beth yw eich gweledigaeth ar gyfer Cymru ac a ddylid cyfreithloni canabis? Gallwch weld yr atebion i’r cyfan, yn rhad ac am ddim, ar derfyn y golofn hon.
Cewch ddod i’ch casgliadau eich hunan. Ond i mi, o ddarllen yr atebion – ac ar sail yr atebion yn unig – mae Jeremy i’w weld yn well ymgeisydd na Vaughan.
Os edrychwch, er enghraifft, ar yr atebion i’r ddau gwestiwn cyntaf – pam mai chi yw’r dyn gorau? Beth yw eich gweledigaeth? – mae yna fwy o ôl meddwl ac angerdd i’w gweld yn atebion Jeremy. Mae yna fanylder yn ei ddisgrifiad o’r hyn yr hoffai weld yn digwydd yng Nghymru. Megis:
“Mae gen i weledigaeth gref am Gymru ffyniannus, hyderus, deg… Senedd a llywodraeth sydd yn gyfrifol am fwy a mwy o fywyd Cymru drwy gryfhau ein setliad datganoli… rwy’n credu bod gyda fi ddealltwriaeth ddofn o Gymru a’i phobl… ynghyd â bron i ddau ddegawd o fywyd cyn y Senedd mewn swyddi cyfreithiol a masnachol.”
Sylwer ar y gair ffyniannus – a’i brofiad masnachol. Credaf fod ffocws Jeremy ar economi Cymru’n glir iawn, o’i gymharu â’r hyn a welir yn atebion Vaughan.
Mae geiriau Vaughan, yn y cyfamser, yn fwy jenerig. Bron y byddai modd i unrhyw wleidydd mewn unrhyw wlad eu datgan. Megis:
“Rwy’n credu bod gennyf y profiad, y gwerthoedd, a’r weledigaeth sydd eu hangen i arwain mudiad unedig a dod â phobl ynghyd i adeiladu dyfodol gobeithiol a thecach.”
O ran ei weledigaeth, mae Jeremy eto yn dangos ei awydd i’n gweld yn ffynnu fel cenedl. Ac onid yw’n hen bryd i ni weld hynny’n digwydd?
“Hoffwn weld Cymru,” meddai, “lle gallwn ni i gyd fyw’n dda, lle mae ein cenhedlaeth nesaf yn etifeddu ffyniant, ac yn tyfu i fyny mewn gwlad gyfiawn, gynhwysol, wyrddach lle rydym ni i gyd yn teimlo’n gartrefol.”
Meddai Vaughan:
“Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu dyfodol tecach i Gymru lle mae gan bawb gyfle i lwyddo, waeth beth fo’u cefndir neu eu hymddangosiad.”
Ac a ydy’r geiriau yma gen Vaughan yn ddim mwy na thicio’r bocs yng nghyswllt y Gwasanaeth Iechyd?
“Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau cenedl iach, gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru bob amser yn ddiogel yn nwylo’r cyhoedd a bob amser yn flaenoriaeth gyllidebol.”
Mae ffocws Vaughan ar gyfiawnder a chydraddoldeb oll yn syniadau clodwiw, ond heb ffocws cadarn ar ein heconomi, fel y brif flaenoriaeth, mae yna beryg y byddwn oll yn gydradd ond hefyd yn dlawd!
Yr economi a Brexit
Wrth ateb cwestiwn penodol am economi Cymru, dyma Jeremy’n datgan:
“Dyma fydd fy mhrif flaenoriaeth.”
Geiriau pwysig, fe gredaf. Sef blaenoriaeth newydd, hollbwysig, o ran gwaith ein Llywodraeth – pe byddai Jeremy’n ennill. (A wyddoch nad yw Mark Drakeford erioed wedi gwneud araith am ein heconomi?!)
Mae’r ddau (wrth gwrs) yn sôn am swyddi gwyrdd a diwydiant gwyrdd.
Vaughan yn cynnig y bydd y rhain “wrth wraidd diogelu dyfodol Cymru”. Mae Jeremy, fodd bynnag, gyda’i ffocws ar ystod fwy eang o fusnesau – gan gynnwys cynnig cymorth i “raddedigion sefydlu busnesau yng Nghymru”. Sef yr union fath o entrepreneuriaeth sydd wir ei angen arnom.
Yn y cyfamser, mae Vaughan am arwain mwy a mwy o gwmnïau i ymuno gyda’i gronfa Gwaith Teg, er mwyn hybu arferion gwaith teg ar draws Cymru. Syniad gwych – heblaw bod ambell i gwmni’n ystyried y cynllun fel anghymhelliad i fuddsoddi yma.
Cyffrous, hefyd, yw gweld Jeremy’n sôn am sicrhau datblygu twf economaidd drwy ddulliau “hyd braich oddi wrth y llywodraeth”. Dylid cofio fod Cymru’n denu llawer mwy na’i siâr o fuddsoddiad adeg y WDA [Welsh Development Agency] a’r DBRW [Development Board for Rural Wales] gynt. Braf fyddai dychwelyd i’r dyddiau hynny.
O ran gwneud y gorau o Brexit, mae Vaughan eto’n sôn am ei gronfa Gwaith Teg sydd i’w ariannu wrth i “gronfeydd ôl-UE ddychwelyd i Gymru”.
Yn y cyfamser, mae Jeremy’n fwy uchelgeisiol, yn cynnig yr angen i “ddatblygu cysylltiadau agosach â’r UE” – a hyd yn oed “ailymuno â’r Farchnad Sengl”. Rhy uchelgeisiol, o bosib, ond yn cynnig gweledigaeth wleidyddol fwy radical a chyffrous.
Mae’r ddau’n credu y dylai’r rhai sydd â’r ysgwyddau lletaf ysgwyddo’r baich trymaf o ran trethi. A’r ddau yn cyfeirio at ddiwygio system treth y cyngor. Os ydych yn byw mewn unrhyw le mwy crand na sied fe fyddwch yn talu mwy cyn bo hir!
O ran AI, mae Vaughan yn sôn bod Deallusrwydd Artiffisial yn risg ac yn gyfle. Mae’n egluro bod Cyngor Partneriaeth y Gweithle (sef yr undebau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru) wedi sefydlu gweithgor i “helpu llunio’r ymateb i gynnydd AI”.
Eto fyth, mae ymateb Jeremy i’w weld yn fwy deinamig. Fel petai ar y blaen o ran meddwl i ba gyfeiriad y gallai AI fynd â ni:
“Rhaid deall ac ymateb yn rhagweithiol o ran polisi economaidd, sgiliau ac yn ehangach at oblygiadau hyn ar swyddi.”
A hefyd:
“Gall deallusrwydd artiffisial a thechnoleg hefyd fod yn rhan o’r ateb ar gyfer economi gryfach, swyddi sy’n talu’n well – a gwasanaethau cyhoeddus a all fynd ymhellach i gefnogi ein pobl.”
Tai a chanabis
O ran tai, roedd yn anodd gweld unrhyw ymrwymiad gan Vaughan i newid pethau, yng nghyswllt fy nghwestiwn am y Ddeddf Iawndal Tir (sydd y tu cefn i’r ffaith fod 70% o gost tŷ newydd yn talu am y tir yn unig – tra’n gwneud tirfeddianwyr yn hynod o gyfoethog).
“Mae iawndal tir yn fater a gadwyd yn ôl, byddai diddymu neu ddisodli Deddf 1961 yn fater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai Vaughan. Ond beth yw ei farn am y ddeddf? A ydyw am ofyn i Lywodraeth Prydain ei newid?
Mwy o obaith diolch i Jeremy, o bosib, wrth iddo gydnabod bod Deddf Iawndal Tir 1961 yn “berthnasol i Gymru a Lloegr”. Ac y byddai, os yn Brif Weinidog, yn “sicrhau bod anghenion Cymru bob amser yn cael eu hadlewyrchu mewn newidiadau a gyflwynir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.”
O ran cyfreithloni canabis, nid oes unrhyw farn gan Vaughan i’w rhannu gyda darllenwyr Golwg, heblaw am ddweud mai “Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am statws cyfreithiol cyffuriau ac felly dylid mynd ati ar sail y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd”.
Ond mae barn glir gan Jeremy, sef: “Ni fyddai gennyf unrhyw fwriad [cyfreithloni canabis].”
Beth bynnag yw eich barn am hyn, o leiaf mae Jeremy wedi rhannu ei safbwynt gyda’r gweddill ohonom. Sgwennais am hyn yn ddiweddar, gyda llaw. Gall cyfreithloni canabis wneud arian mawr i ffermwyr Cymru. Roedd y diwydiant yn werth $635 miliwn i ffermwyr talaith Washington yn yr Unol Daleithiau yn 2019.
Addysg ac Iechyd
Mae atebion y ddau am y byd addysg gystal â’i gilydd. Jeremy’n esbonio bod ein cwricwlwm newydd ar sail “egwyddorion a ddefnyddir mewn sawl gwlad sydd â safonau a chanlyniadau addysgol da”. A Vaughan yn “ymrwymo i gau’r bwlch cyrhaeddiad a mynd i’r afael â’r cynnydd mewn absenoldebau ac ymddygiad aflonyddgar mewn ysgolion”.
Vaughan hefyd am “weithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a rhieni i hyrwyddo mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg”. Da iawn fe!
Dim un o’r ddau yn fodlon ystyried a oes angen model sy’n wahanol i’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol – a mabwysiadu systemau iechyd gwledydd sy’n gwneud yn well na ni, megis Seland Newydd.
“Mae angen i’r GIG gael ei ariannu’n iawn,” medd Jeremy. Ond o ble y daw yr arian? Mae hefyd am “sicrhau mwy o rymuso ar gyfer reng flaen y gwasanaeth” – sy’n syniad da.
Vaughan, fodd bynnag, am ddysgu o arfer gorau rhyngwladol tra hefyd yn gwarantu y byddai’r “GIG yng Nghymru yn cadw’n driw i egwyddorion Bevan”.
Pa bynnag un ddaw’n Brif Weinidog, felly, fe fyddwn yn dal i droi mewn cylchoedd o ddiffyg arian, oedi a methiant – tra bod gwledydd eraill yn mwynhau gwasanaethau iechyd gwell na ni. Dyma ddiffyg o ran dewrder y ddau yn wleidyddol – ac o ran polisïau radical.
Mentrau Iaith a’r Steddfod
O ran cludiant, y ddau yn cytuno bod angen ffyrdd newydd a gwell yng Nghymru – ond mae’r ddau wedi ymrwymo i’r profion amgylcheddol newydd er mwyn amddiffyn ein hamgylchedd a fydd, yn eu tro, yn arafu neu rwystro’r ffyrdd newydd sydd eu hangen arnom. Ceffyl a throl amdani, felly!
Mae’r ddau yn cytuno mai ’20mya‘ yw’r polisi iawn – ond, eto fyth, y ddau am gynnal adolygiad o’r polisi a gyflwynwyd mor ddiweddar â mis Medi. Mae’r adolygiadau yma’n mynd i gostio arian i ni – tra’n dadwneud y terfynau 20myh hurt sydd nawr ar waith mewn llawer lle. Anhrefn ac embaras llwyr yw hyn! Mae’n debyg bod arfer Keir Starmer o ran newid ei feddwl yn fyw ac yn iach yma yng Nghymru!
Yn anffodus, y ddau’n ymrwymedig i Sero Net. Hyn er i adroddiad yr Athro Michael Kelly esbonio nad yw’n bosib ei gyrraedd erbyn 2050 – ac y bydd yn costio £180k i bob cartref.
Y ddau’n gwrthod ymrwymo i ariannu’r mentrau iaith yn well, er y pwyslais polisi ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
O leiaf mae Jeremy yn eu gwerthfawrogi: “Mae’r mentrau iaith yn gwneud gwaith rhagorol yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y wlad.” Ond ddim gair amdanynt gan Vaughan. Wedi dweud hynny, mae’n cefnogi’r cais i roi statws gwarchodedig UNESCO i’r Eisteddfod Genedlaethol.
Y ddau yn cydnabod fod Cymru’n genedl noddfa – ac yn barod i groesawu mewnfudwyr. Ond gydag ambell i gafeat:
Medd Jeremy: “Byddwn bob amser yn croesawu pobl sydd â chyfraniad positif i’w wneud i’n cymdeithas.”
A Vaughan: “Rhaid inni gael system sy’n cefnogi economi a gwasanaeth cyhoeddus Cymru.”
Digon synhwyrol.
Ond diddorol oedd gweld Vaughan yn pwysleisio lliw ei groen wrth drafod mewnfudo:
“Os byddaf yn ennill y gystadleuaeth hon, fi fydd yr arweinydd du cyntaf o unrhyw genedl yn Ewrop.”
Ac y bydd ei ethol i’r swydd yn galluogi “pawb ledled Cymru (gan gynnwys bechgyn a merched du) i weld prawf pellach y gellir gwireddu eu potensial yma yng Nghymru.”
Mae hyn yn wych, wrth gwrs, ond nid lliw ei groen ddylai’r brif ystyriaeth fod er mwyn ei ethol. Syniadau sy’n bwysig.
Y ddau i’w gweld yn hapus i weld traws-fenywod yn cystadlu mewn digwyddiadau chwaraeon yn erbyn menywod cis (sef menyw ers ei geni).
Meddai Jeremy: “Nid gwleidyddion sydd yn y lle gorau i benderfynu ar ofynion mynediad penodol yr ystod fawr o chwaraeon. Dylai cyrff chwaraeon penderfynu ar eu rheolau wrth ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol a gwrando’n sensitif ar y rhai y bydd eu penderfyniadau’n effeithio arnynt.”
Vaughan yn fwy pro-traws, o bosib, yn ein hatgoffa bod “Cynllun Gweithredu LBBTQ+ ein Llywodraeth yn dweud bod allgáu cyffredinol o bobl drawsryweddol ac anneuaidd mewn perygl o anfon y neges anghywir at bobl ifanc traws na allant gael yr un cyfleoedd â’u ffrindiau a phlant eraill. A bod chwaraeon i fod i bawb, yn fan lle gall pawb gymryd rhan a lle mae pawb yn cael eu trin â charedigrwydd, urddas a pharch.”
Rwy’n synhwyro o hyn y byddai Jeremy yn fwy sensitif i bryderon menywod cis nag y byddai Vaughan. Mae’n dibynnu beth yw eich barn am hyn – ond mae’n well gennyf i ateb Jeremy.
Dewis Huw ar gyfer y brif swydd
Yn fy marn i Jeremy Miles sydd wedi cynnig yr atebion mwyaf craff, manwl a deallusol. Mae’n dangos mwy o ôl meddwl creadigol na Vaughan – ac yn cynnig mwy o syniadau gwreiddiol a phositif er mwyn gwella Cymru.
Ffocws clir a phendant Jeremy ar economi Cymru – “dyma fydd fy mhrif flaenoriaeth” – yw’r peth mwyaf pwysig a ddarllenais yn atebion y ddau. Heb economi ffyniannus, nid oes gobaith i ni wella ein safonau byw.
Yn y cyfamser, mae penderfyniad undeb Unite i eithrio Jeremy fel yr ymgeisydd i’w gefnogi ganddynt, am reswm technegol, yn dal i adael blas cas iawn. Oni ddylai Vaughan fod wedi galw ar yr undeb i anwybyddu’r mân-reol, er mwyn rhoi cyfle teg i’r ddau ymgeisydd?
Mater o dristwch ac embaras fyddai ethol Prif Weinidog newydd yn rhannol ar sail rheol undeb, yn hytrach na dim ond ar sail syniadau’r ymgeisydd llwyddiannus.
Atebion Jeremy Miles YN LLAWN
Ugain Cwestiwn Jeremy Miles
Atebion Vaughan Gething YN LLAWN