Gydag aelodau Llafur Cymru wedi cychwyn pleidleisio ar gyfer eu harweinydd newydd, a fydd maes o law yn olynu Mark Drakeford yn Brif Weinidog, mae Huw Onllwyn wedi holi ugain cwestiwn i’r ddau sydd yn y ras.
Fe gewch farn Huw am atebion Vaughan Gething a Jeremy Miles yn ei golofn ddiweddaraf.
A dyma atebion Jeremy Miles yn eu cyfanrwydd…
Pam mai chi yw’r dyn gorau ar gyfer y swydd hon?
Mae gen i weledigaeth gref am Gymru ffynianus, hyderus, deg. Cenedl sy’n arwain ar ein hymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, gyda Senedd a llywodraeth sydd yn gyfrifol am fwy a mwy o fywyd Cymru drwy gryfhau ein setliad datganoli, a lle mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.
Rwy’n sefyll i fod yn arweinydd fy mhlaid ac i fod yn Brif Weinidog Cymru oherwydd rwy’n credu bod gyda fi ddealltwriaeth ddofn o Gymru a’i phobl, profiad o ddelifro diwygiadau mewn swyddi mawr yn y llywodraeth, ynghyd a bron i ddau ddegawd o fywyd cyn y Senedd mewn swyddi cyfreithiol a masnachol fydd o ddefnydd mawr.
Mae angen arweinydd sydd â gweledigaeth gref a’r gallu i ddod a phobl ynghyd o’i gwmpas. Mae arweinyddiaeth yn ymwneud â‘r “ni” nid y “fi”.
Sut byddech chi’n crynhoi eich gweledigaeth ar gyfer Cymru?
Hoffwn weld Cymru lle gallwn ni i gyd fyw’n dda, lle mae ein cenhedlaeth nesaf yn etifeddu ffyniant, ac yn tyfu i fyny mewn gwlad gyfiawn, gynhwysol, wyrddach lle rydym ni i gyd yn teimlo’n gartrefol.
Dylai ein gwasanaethau cyhoeddus, ein heconomi a’n cymdeithas ehangach roi cyfle teg i bob un ohonom gyflawni ein potensial a byw’r bywyd a ddymunwn. Ni ddylid gadael neb ar ôl.
Rwy’n falch o’r modd y mae Llafur Cymru wedi llunio Cymru. Mae’n wlad sy’n cynnwys gofal iechyd, dysgu gydol oes a sefydliadau diwylliannol am ddim i bawb; gwlad sy’n credu bod mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yn gorfod bod yn ganolog i bopeth a wnawn.
Byddaf yn adeiladu ar y sylfeini hyn gydag ymrwymiad i ffyniant ac undod. Gyda’n gilydd byddwn yn cyflawni mwy o gydraddoldeb a mwy o gyfoeth i’w rannu.
Bydd Cymru yn genedl lle mae pobl ifanc, wych am ddod i fyw, gweithio a magu teuluoedd, a lle mae dinasyddion o bob oed yn byw mewn urddas a pharch. Bydd Cymru’n edrych tuag allan yn hyderus, gan ddathlu cyfoeth ei threftadaeth ac amrywiaeth ei chymunedau.
Beth yw tri pheth y byddwch yn eu gwneud i roi hwb i economi Cymru, gan gynnwys cefnogi cwmnïau lleol, hen a newydd?
Dyma fydd fy mhrif flaenoriaeth.
Yn gyntaf, ysgogi’r economi drwy ailffocysu ein gwariant cyfalaf a chaffael mewn ysgogiad Twf Gwyrdd Da.
Yn ail, ymgyrch “Gwnewch hi yng Nghymru” i gadw a denu talent i Gymru a dod â Chymry dramor adref, gan gynnwys archwilio cymhellion ariannol newydd i’n graddedigion newydd a diweddar sefydlu busnesau a gweithio yng Nghymru.
Yn drydydd, cefnogi cydweithredu economaidd trawsffiniol dyfnach yn enwedig yng ngogledd ddwyrain Cymru, a manteisio ar y buddsoddiad ym Mlaenau’r Cymoedd.
Sut fyddwch yn denu cwmnïau mawr, byd-eang, i fuddsoddi yng Nghymru, i ddarparu mwy o swyddi rhagorol ledled y wlad?
Mae angen i bawb – prifysgolion a cholegau, y gymuned o fuddsoddwyr, busnesau, entrepreneuriaid a Llywodraeth Cymru – dynnu i’r un cyfeiriad ar flaenoriaethau economaidd cenedlaethol.
Yn benodol, rwy am ailystyried yr achos dros ddatblygu economaidd – yn canolbwyntio ar dwf cynaliadwy, buddsoddiad, entrepreneuriaeth, cymorth cynhyrchiant a chreu swyddi da – sydd hyd braich oddi wrth y llywodraeth. A byddaf yn ymestyn cylch gwaith Banc Datblygu Cymru ar gyfer cefnogi buddsoddiad gwyrdd.
Mae Brexit yn fargen sydd wedi’i chwblhau. Sut y byddwch yn ceisio sicrhau y bydd Cymru’n elwa o Brexit?
Fel Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru rhwng 2018 a 2021, bûm yn brwydro’n galed i sicrhau bod y DU yn sicrhau’r fargen orau bosibl â’r UE. Yn anffodus, roedd gan Lywodraeth Boris Johnson o dan arweiniad y Torïaid syniadau eraill, ac rydym bellach wedi cael y fargen waethaf bosibl.
Mae hynny’n cael effaith negyddol sylweddol ar ein heconomi a’n cymdeithas – yn enwedig i fusnesau ac allforwyr, ar ein ffermwyr ac ar ein pysgotwyr, sefydliadau’r trydydd sector, a’n sector addysg uwch.
Felly, fel Prif Weinidog Cymru, byddaf yn dadlau bod yn rhaid i’r DU ddatblygu cysylltiadau agosach â’r UE. Rwy’n credu’n gryf y byddai ailymuno â’r Farchnad Sengl er lles gorau Cymru.
Ydych chi’n meddwl y dylai pobl sy’n ennill cyflogau uchel dalu mwy o drethi?
Y rhai sydd â’r ysgwyddau lletaf ddylai gyfrannu fwyaf – ac mae hynny’n wir eisoes. Ond nid yw hynny golygu mai’r peth iawn i’w wneud yw codi cyfraddau treth Cymru.
Ond boed yn ddiwygio treth y cyngor, neu’n unrhyw agwedd arall ar bolisi cyllidol, byddaf bob amser yn cymryd agwedd flaengar.
A yw Deallusrwydd Artiffisial yn fygythiad i swyddi yng Nghymru? Ar yr un pryd, sut gall Cymru elwa ar AI?
Mae AI yn debygol o effeithio ar bob rhan o fywyd yn cynnwys yr economi a’r gweithle, a rhaid deall ac ymateb yn rhagweithiol o ran polisi economaidd, sgiliau ac yn ehangach at oblygiadau hyn ar swyddi.
Gall deallusrwydd artiffisial a thechnoleg hefyd fod yn rhan o’r ateb ar gyfer economi gryfach, swyddi sy’n talu’n well, gwasanaethau cyhoeddus a all fynd ymhellach i gefnogi ein pobl, ac wrth fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae tai yn ddrud iawn – ac mae 70% o gost tŷ newydd yn talu am y tir yn unig. Achoswyd y broblem hon gan Ddeddf Iawndal Tir 1961, sydd o fudd i dirfeddianwyr cyfoethog. A yw’n bryd diddymu’r ddeddf honno ?
Un o fy addewidion yw mynd i’r afael â rhwystrau i adeiladu tai, yn enwedig yn y sector cymdeithasol. Mae cyflenwad tir yn rhan o hynny.
Mae Deddf Iawndal Tir 1961 yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Fel Prif Weinidog, byddaf yn sicrhau bod anghenion Cymru bob amser yn cael eu hadlewyrchu mewn newidiadau a gyflwynir gan Lywodraeth y DU.
Bydd y farchnad ganabis gyfreithiol yn UDA yn werth $100bn yn 2024, gan ddod ag incwm y mae mawr ei angen i ffermwyr, ardaloedd gwledig a’r diwydiant twristiaeth. A ddylai canabis gael ei gyfreithloni yng Nghymru?
Mae hwn yn fater nad yw wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, ni fyddai gennyf unrhyw fwriad i wneud hyn pe bai’n cael ei ddatganoli.
Byddai fy llywodraeth yn ffocysu ar y blaenoriaethau mwyaf – a dyma’r rhai yr wyf wedi’u nodi yn fy addewidion yn yr etholiad hwn.
Mae Cymru wedi cyflwyno cwricwlwm ysgol newydd, yn seiliedig ar y Cwricwlwm er Rhagoriaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar yn yr Alban. Fodd bynnag, mae safonau addysg yn yr Alban yn plymio. A yw’n bryd rhoi’r gorau i fodel yr Alban ac ailgyflwyno addysg sy’n seiliedig ar ddysgu gwybodaeth?
Crëwyd Cwricwlwm i Gymru yma yng Nghymru gan athrawon ac addysgwyr, gan weithio gydag arbenigwyr. Mae’n cynrychioli cyfnod newydd cyffrous i addysg yng Nghymru ac mae’n disodli’r cwricwlwm cenedlaethol sydd wedi bod yn ei le ers y 1980au.
Mae egwyddorion y cwricwlwm newydd yn debyg i’r egwyddorion a ddefnyddir mewn sawl gwlad sydd â safonau a chanlyniadau addysgol da, ac mae’r OECD yn cydnabod hyn er enghraifft.
Rhan greiddiol o’r dull newydd yw galluogi ysgolion i gynllunio eu cwricwlwm eu hunain. Mae hyn yn galluogi addysgu i gael ei deilwra. Mae cynnwys y cwricwlwm yn heriol, er mwyn codi safonau mewn ysgolion.
Mae myfyrwyr yn dweud eu bod yn cael eu twyllo gan gyrsiau gradd drud nad ydynt yn gwneud fawr ddim ar gyfer eu helpu i ganfod swyddi da. Sut fyddwch chi’n atal hyn rhag digwydd?
Yn fy mhrofiad i mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn credu bod addysg prifysgol yn drawsnewidiol, ac mae pob sefydliad addysg uwch yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr i wneud yn siŵr bod myfyrwyr wedi’u harfogi ar gyfer byd gwaith.
Wrth gwrs, mae mwy y gellir ei wneud bob amser i wella’r gwerth ychwanegol y mae myfyrwyr yn ei gael gan brifysgolion Cymru, ac mae cyflogadwyedd a sgiliau entrepreneuraidd yn rhan allweddol o hynny.
Rwyf wedi addo cysoni ein polisi economaidd, ein polisi sgiliau a’n diwygiadau i gymwysterau galwedigaethol mewn un continwwm cydlynol sy’n canolbwyntio ar sectorau’r dyfodol.
Mae’r DU yn drydydd yn y byd o ran gwariant ar iechyd, fel cyfran o GDP. Fodd bynnag, mae canlyniadau iechyd Cymru yn waeth na’r rhai a welir mewn gwledydd fel Seland Newydd, lle mae gwasanaethau iechyd yn cael eu rhedeg a’u hariannu’n wahanol. A yw model y GIG yn dal yn addas at y diben?
Mae angen i’r GIG gael ei ariannu’n iawn – ond mae mwy i hyn na chyllid. Yr hyn y mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn ei ddweud wrtha i yw bod y diwylliant, yr ymddygiadau a’r atebolrwydd yr un mor bwysig.
Felly rwyf am weld strategaeth gliriach, gyda thargedau pwrpasol, mwy o rymuso ar gyfer y rheng flaen ar yr un pryd ag atebolrwydd clir, a phwyslais ar arloesi ym mhopeth a wnawn.
Bydd dyfodol iechyd yn gyfoethog o ran data, yn bersonol ac yn ataliol: mae’n ddyletswydd arnom i gyrraedd yno’n gyflym.
Mae gordewdra yn lladdwr. Mae gan Gymru’r gyfradd uchaf o ordewdra ymhlith plant yn y DU – ac mae 80% o bobl ym Mlaenau Gwent yn ordew – yn fwy nag unrhyw le arall yn y DU. Pwy sy’n gyfrifol am hyn – a sut dylid mynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru?
Rwy’n meddwl am hyn yn fwy fel pwy sydd â rôl i’w chwarae i wneud rhywbeth yn ei gylch. A’r ateb i hynny yw pawb: unigolion, teuluoedd, ysgolion, gweithwyr meddygol proffesiynol, busnesau cyfrifol.
Mae cymaint o hyn yn ymwneud â chymell ac annog yr ymddygiad y gwyddom sy’n helpu – bwyta’n iach, gweithgaredd corfforol a chwaraeon. Ac mae’n mynd yn ôl i ffyniant economaidd – nid bwled arian mohono, ond mae’n ei gwneud hi’n haws mynd i’r afael â’r holl bethau eraill hyn.
Bydd mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn flaenoriaeth i’m llywodraeth a byddaf yn arwain fel Prif Weinidog ar gynllun gwaith trawslywodraethol.
A oes angen ffyrdd newydd, gwell a mwy diogel ar Gymru?
Mewn rhai mannau, oes – a bydd rheini’n dal i gael eu hadeiladu. Does dim gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd, ond mae’r bar bellach yn uwch ac mae hynny’n iawn.
Mae 70% o bobol Cymru yn gwrthwynebu’r ddeddf 20mya. Bydd yn cynyddu costau busnes, yn torri gwasanaethau bysiau ac yn arwain llawer o yrwyr i golli eu trwyddedau a’u swyddi, wrth wneud dim mwy na gyrru ar gyflymder o 24mya. Ydy hi’n bryd gwneud tro pedol?
20mya yw’r polisi cywir ar gyfer diogelwch. Mae llawer o bobl yn ei gefnogi mewn ardaloedd preswyl, o amgylch ysgolion, siopau ac yn y blaen.
Ond mae pawb yn gwybod am enghraifft o ffordd leol lle mae 20 yn teimlo’n anghywir. Lle mae hyn yn wir, dylai fod yn gyflym ac yn hawdd ei newid. Rydym eisoes wedi ymrwymo i adolygiad – byddaf yn bwrw ymlaen a hynny ar frys.
Yn ôl yr Athro Michael Kelly , bydd cyflawni sero net erbyn 2050 yn costio £3 triliwn i’r DU (hyd at £180k fesul cartref); bydd angen defnyddio’r cynyrch byd-eang o ddeunyddiau allweddol megis lithiwm, cobalt a neodymium – a bydd angen gweithlu o faint y GIG i’w weithredu. Bydd cyrraedd sero net yn niweidio ein heconomi ac yn ein gwneud yn dlotach, tra bydd India, Asia, Affrica a China yn cynyddu eu hallyriadau CO2 tra’n parhau i ffynnu. A ddylem ni, felly, anelu at sero net? A yw hyd yn oed yn bosibl ei gyflawni?
Rwy’n gwbl ymrwymedig i sero net – mae hyn yn rheidrwydd o ran hinsawdd ac yn gyfle economaidd. Os na fyddwn yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, y rhai gwaethaf eu byd fydd yn dioddef fwyaf.
Mae rôl bwysig i Gymru, wrth ganolbwyntio ein hymdrechion ar y ffyrdd gorau y gallwn gyfrannu at ymdrechion byd-eang brys gan ystyried mantais gymharol ein daearyddiaeth. Yr arfordir, aber yr Hafren, y Môr Celtaidd.
Ac mae gan ein gwaith gwyddoniaeth ac ymchwil y potensial i luosi ein heffaith trwy drosglwyddo ein darganfyddiadau a’n harloesi i’r byd.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno y dylid cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae’r mentrau iaith mewn sefyllfa dda i gyflawni’r nod hwn, ond yn brin o arian parod. Beth am roi £0.5m yr un iddynt er mwyn hybu defnydd cymunedol o’r Gymraeg ar draws pob oed?
Mae’r mentrau iaith yn gwneud gwaith rhagorol yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y wlad. Maen nhw wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau a’n deall beth sy’n gweithio orau mewn gwahanol rannau o Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn dyfarnu grant craidd o dros chwarter miliwn i Fentrau Iaith Cymru i gefnogi’r rhwydwaith. Ar adeg pan fo cyllideb Llywodraeth Cymru yn wynebu pwysau digynsail oherwydd maint y grant a gawn gan y Llywodraeth Geidwadol, rydym wedi penderfynu gwarchod cyllideb y mentrau yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Sut y byddwch yn amddiffyn y rhyddid i lefaru, gan gynnwys mewn ysgolion a phrifysgolion?
Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â phrifysgolion Cymru ac maen nhw’n ymrwymedig i sicrhau trafod a dadlau’n rhydd ar gampysau.
Mae gallu clywed gan siaradwyr diddorol a datblygu eich byd-olwg eich hun yn rhan bwysig o’r profiad myfyriwr – fe wnes i elwa’n fawr o hyn pan roeddwn i’n fyfyriwr.
Ond dylai myfyriwr ddim gorfod goddef lleferydd atgas neu wahaniaethol. Yng ngoleuni pryderon diweddar, rwy wedi ailadrodd wrth brifysgolion na ddylai fod dim goddefgarwch o wrthsemitiaeth, islamoffobia nac unrhyw fath o gasineb ar gampysau.
Sut byddech chi’n rheoli mewnfudo tra’n datblygu perthynas dda ar draws Cymru amlddiwylliannol?
Er bod polisi mewnfudo yn amlwg yn fater i Lywodraeth y DU, rwy am i Gymru, fel cenedl noddfa, fod yn agored ac yn groesawgar. Byddwn bob amser yn croesawu pobl sydd â chyfraniad positif i’w wneud i’n cymdeithas.
A ddylai traws-fenywod gael yr hawl i gystadlu mewn digwyddiadau chwaraeon yn erbyn merched cis?
Fy man cychwyn yw sut gallwn fod yn gynhwysol a chaniatáu i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon, o gofio’r manteision amlwg sydd yn dod yn sgil hynny.
Nid gwleidyddion sydd yn y lle gorau i benderfynu ar ofynion mynediad penodol yr ystod fawr o chwaraeon sydd yn cael eu chwarae. Lle mae cyrff chwaraeon yn penderfynu ar eu rheolau, dylsen nhw ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol a gwrando’n sensitif ar y rhai y bydd eu penderfyniadau’n effeithio arnynt – a gwneud penderfyniadau ar sail amgylchiadau unigol nid gwaharddiadau blanced.