Y perfformiwr drag 31 oed o Gaerffili yw un o sêr y gyfres Gogglebocs Cymru, sydd newydd ddychwelyd ar S4C.
Pan nad yw yn cynnig sylwadau ffraeth am raglenni teledu neu ar lwyfan yn canu a dawnsio, mae yn rhedeg busnes gwerthu crisialau…
Beth oedd y sbardun i geisio am le ar Gogglebocs Cymru?
Wnes i a Teifi, dw i’n gwneud y sioe gyda, gyfarfod tua dwy flynedd yn ôl erbyn hyn trwy drag yn y gymdeithas cwiar. Roedd rhywun oedd yn nabod ei fam, Medi, sydd ar y rhaglen gyda ni, wedi awgrymu ei bod hi’n trio.
Ac wedyn roedd dau opsiwn – fy mod i a Teifi yn gwneud o gydag ein ffrind neu yn gwneud e gyda Medi. Roeddwn i’n nabod Medi ychydig cyn gwneud Gogglebocs gan ei bod hi’n dod i wylio ein sioeau drag, ond dw i wedi dod i’w nabod hi’n well ac mae o wedi gweithio mas yn dda gyda fi, Medi a Teifi ar y rhaglen.
Sut effaith mae bod ar y rhaglen wedi cael ar eich arferion gwylio teledu?
Dw i’n gwylio lot mwy o deledu Cymraeg ers bod ar y rhaglen – 100%. Mae o wedi agor lan gymaint o genres teledu Cymraeg doeddwn i byth yn gwybod oedd mas yna, i fod yn onest. Jest trwy wylio clipiau byr dw i’n meddwl: ‘W, ie, wna i wylio gweddill hwnna’.
Oes gennych chi hoff raglen ar S4C?
Anfamol. Mae o yn llawn hiwmor sych, ffraeth a choeglyd. Dw i’n hoffi bod y prif gymeriad, Ani, yn jocio am fraint dynion a phethau fel yna hefyd. Mae’n twtsiad ar bynciau pwysig.
Beth arall sydd ar y gweill?
Mae gen i fusnes o’r enw Little Cactus felly dw i’n gwerthu crisialau o bob math yn siop y Queer Emporium yng Nghaerdydd. Dw i hefyd yn teithio o gwmpas i farchnadoedd efo’r siop. Dw i rili mewn i ysbrydolrwydd ac iachau felly mae o’r busnes perffaith i fi.
Dw i hefyd efo fan bwyd stryd felly mae hwnna ar y ffordd yn fuan…
Oes yna gymuned LDHTC+ fywiog yng Nghaerffili?
Nag oes. Mae yna sîn rili cŵl yng Nghaerdydd ac mae pawb yn nabod pawb. Yng Nghaerffili, mae yna’n amlwg pobol cwiar, ond does yna ddim sîn o gwbl yno. Mae ganddo bach o waith dal i fyny i wneud.
Beth yw eich atgof cynta’?
Mae’n hollol random, ond yr atgof cyntaf sydd gen i yw pryd o’n i’n tua thair blwydd oed. Roeddwn i yn dringo’r grisiau lan i’r tŷ, ac roedd gen i hiccups rili gwael. Felly ges i un hiccup mor gryf, wnes i neidio lan un step a chwympo yn ôl lawr y grisiau, ac i’r llawr.
Ges i fy magu yng Nghaerffili efo fy rhieni a dwy chwaer, a chefais fy magu ar aelwyd ag anableddau yn y teulu, felly mae hygyrchedd bob amser wedi bod yn rhywbeth yr ydym wedi gorfod ei ystyried. Fel plentyn, ro’n i wastad yn perfformio, dawnsio neu yn bod yn greadigol mewn ffyrdd eraill.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Wel, tu fas i Gogglebocs Cymru, dw i hefyd yn berfformiwr drag, felly dw i wastad yn dawnsio, ac yn neidio o gwmpas, ac mae hynny’n ddigon o ymarfer corff i mi. Ond dw i yn caru’r gym hefyd pryd dw i’n cael amser.
Sut wnaethoch chi ddechrau yn y byd drag?
Dw i wastad wedi perfformio ers o’n i’n ifanc, ond wnes i ddod allan o’r cyfnod clo a thaflu fy hun i mewn i’r gymdeithas cwiar. Felly wnes i ddechrau mynd mas i sioeau drag ac un noson wnaeth perfformiwr ddweud eu bod nhw angen rhywun ar gyfer sioe mewn mis neu ddau. Wnes i astudio colur yn y coleg felly wnes i feddwl ‘pam lai?’ Wnes i drio fo a dw i heb edrych yn ôl.
Fy enw llwyfan ydy ‘Jordropper’ a dw i’n gwneud sioeau sy’n roc amgen, metal a llawn comedi. Dw i’n perfformio ar draws y lle ond rhan fwyaf yr amser yng Nghaerdydd. Dw i hefyd wedi gwneud llefydd fel Pride Llanymddyfri, y Fenni a Llambed. Ro’n i lan yn yr Eisteddfod ym Moduan yn yr haf hefyd.
Sut ymateb oedd yna i chi’r perfformwyr drag ar y Maes?
Cymysg. Roedd llwyth o bobol rili up for it ond cawsom ni ychydig bach o hate hefyd. Cawsom ni sylwadau homoffobig a thipyn bach o broblemau. Ond rhan fwyaf o’r amser roedd yr ymateb yn wych. A phob blwyddyn mae’r Eisteddfod yn gofyn i ni fynd yn ôl i berfformio, a dyna sy’n bwysig.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Fyddwn i yn dwli cael Vivienne Westwood, Ozzy Osbourne a Jack Black draw am barti cinio ffansi. Dw i’n meddwl eu bod nhw’n rili cŵl ac mae’r egni gyda nhw – the unhinged energy. Maen nhw’n rebels a pyncs. Ac efo Vivienne Westwood, dw i’n hoffi pa mor wleidyddol ydy hi.
Bydden ni’n bwyta rhyw fath o charcuterie, a probs chippy ar ôl hynny!
Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?
Swsus gorau fy mywyd yw’r rhai dw i’n cael gan fy nghi, Mana, pryd dw i’n codi lan yn y bore. Mae hi’n gymysgedd o Shih Tzu, Bichon Frisé a Chihuahua felly mae hi’n edrych fel cwmwl bach gwlanog… Like butter wouldn’t melt.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Sa i’n gwybod pryd ddechreuodd e, ond un peth dw i wastad yn ddweud yw:
‘Secsi, stunning, slay!’
Hoff wisg ffansi?
Mae’n debyg y bydd yn rhaid iddo fod yn Patrick Star o Spongebob, gyda’r esgidiau a’r fishnets. Slay.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
OMG. Unwaith, roeddwn i mas yn y car efo ffrindiau a ro’n i angen stopio mewn garej i roi petrol yn y car. Wnes i fynd i mewn i dalu (achos dw i’n angel) a phryd wnes i ddod mas o’r garej, wnes i strytio dros y forecourt, agor drws y car a neidio i mewn yn hollol ddramatig… Jyst i ffeindio mas wnes i neidio mewn i’r car anghywir! Gwelais i fy ffrindiau yn y car o fy mlaen yn chwerthin ar dop eu pennau. Cheers lads.
Parti gorau i chi fod ynddo?
Dw i’n gweithio mewn clybiau felly mae’r awyrgylch parti wastad yna. Dewch i weld perfformiad gennai ac fe welwch chi beth yw parti go-iawn!
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Pryder llethol babes. A transphobia.
Hoff ddiod feddwol?
Ti’n cynnig? Spritzer gwin gwyn a shot o Tequila Rose os gwelwch yn dda, cariad!
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Dw i’n caru llyfrau sydd yn siarad am les, ysbrydolrwydd, a’r lleuad… Ond dw i’n dyslecsig, felly audiobook it is!
Hoff albwm?
O, mae hwn yn gwestiwn anodd i ateb oherwydd dw i’n dwli ar bob math o gerddoriaeth. Ond yn ddiweddar dw i’n obssessed efo albwm newydd Ren, sef Sick Boi. Mae hi’n albwm rap sydd yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a salwch cronig.
Casgliad o ganeuon dwfn a chryf!
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Dw i’n bedair troedfedd ac 11 modfedd. Tylwyth teg go-iawn.
Gogglebocs Cymru ar S4C nos Fercher am naw