Mae Seimon Williams, ein harbenigwr rygbi ac un o olygyddion blog GwladRugby, wedi ei blesio gyda’r hyn mae wedi ei weld gan Gymru hyd yma yn y Chwe Gwlad. Ond bydd angen i’r Cymry godi eu gêm er mwyn rhoi her i’r Gwyddelod…

Cyn mentro i Dwicenham ddydd Sadwrn diwethaf, y pryder oedd i ba raddau byddai Cymru’n gallu aros yn y gêm yn ystod y cymalau agoriadol.