Mae hi bron yn flwyddyn ers marwolaeth yr artist, awdur a chyn-brifathro, John Morris, yn 100 oed y llynedd. Yma, mae ei fab, yr artist Dewi Tudur, yn hel atgofion am ei Dad wrth iddo roi casgliad o’i waith at ei gilydd ar gyfer arddangosfa…

Mi syllais yn aml ar Dad yn dylunio hefo’i dri bys a bawd dros y blynyddoedd. Er ei ddamwain gwn yn yr Awyrlu, roedd ei law chwith yn gwibio dros wyneb y papur yn rhwydd a diffwdan.