Gyda degau o filoedd yn llai yn gwrando ar Radio Cymru, Dylan Wyn Williams sy’n rhoi arlwy’r orsaf genedlaethol yn y glorian…

Toc wedi saith nos Wener ddiwethaf, roeddwn i’n sownd mewn tagfa golau coch yn Ystum Taf. Trois y radio ymlaen, a dyma gân bop Saesneg yn bloeddio dros y strydoedd glaw smwc. Ro’n i wedi drysu am eiliad. Lle ddiawl oedd yr orsaf ragosodedig? Ond na, ‘BBC Radio Cymru’ a rhaglen Lauren Moore oedd ar sgrîn las y Ffordyn. Newidiais i orsaf glasurol Scala Radio nes cyrraedd adra.

Hyn mewn wythnos pan gyhoeddwyd bod tipyn mwy ohonom wedi diffodd Radio Cymru. Deugain mil i fod yn fanwl gywir, o 135,000 oedd yn gwrando’n wythnosol yn 2022 i 95,000 y llynedd. Y ffigurau gwaethaf ar gofnod ers arolwg cynta’r Radio Joint Audience Research Limited (RAJAR) ym 1992, ac sy’n bell iawn o’r uchafbwynt o 164,000 drodd at Radio Cymru dair blynedd yn ôl am eiriau o gyngor ac adloniant yn anterth y pandemig. Arwydd clir a chroyw felly nad yw caneuon Saesneg wedi denu mwy i’r orsaf Gymraeg.

Ac wele Dafydd ‘Du’ Meredydd, Pennaeth yr orsaf, yn amddiffyn ei sobor o record ar raglen Newyddion S4C. Dim ond ffigurau gwrandawyr radio byw sy’n cael eu casglu gan RAJAR oedd amddiffyniad y Pennaeth, nad ydynt yn adlewyrchu’r cynnydd o 10% yn y rhai sy’n dal i fyny trwy BBC Sounds. Ac mi’r ydw innau ymhlith y rheini sy’n dibynnu’n fawr ar BBC Sounds i lawrlwytho rhaglenni i’r ffôn lôn a gwrando eto drwy system bluetooth y car, yn enwedig ar yr A470 ddi-signal. Hen stejars y Sul ydi’r rhain yn bennaf – Beti a’i Phobl a Dei Tomos, Y Talwrn a seiniau gwerin Ambell i Gân. Mi hedfanodd sawl taith syrffedus trwy Faldwyn diolch i bodlediadau rhagorol Ioan Wyn Evans, megis hanes Meibion Glyndŵr a Chymru ehangach ar y pryd (Gwreichion) a dirgelwch diflaniad Pwyliad o ffarmwr yng Nghwm-du ym 1953 (Y Diflaniad) ag elfen iasol y Rhyfel Oer. Daeth sawl drama hanner awr i’r adwy yn ochrau Brycheiniog – o ddrama arswyd Manon Eames (Y Ci Du), ac un arall gan Gruffudd Owen am fyfyrwraig mewn cyfnod clo parhaus (Oedolion). Ond os ydi Dafydd Meredydd am inni droi fwyfwy at BBC Sounds, mae gwir angen categori ‘Cymru’ tebyg i’r hyn sydd ar iPlayer er mwyn ffeindio’r arlwy Cymraeg dan un ymbarél cyfleus. Hynny neu atgyfodi gwefan BBC Radio Cymru. Fel arall, mae’r rhaglenni Cymraeg yn gwbl ar goll mewn môr o ddewisiadau Saesneg.

Mae’r cloc larwm acw yn deffro efo Dros Frecwast, ond wedi’r mân esgyrn cychwynnol dwi’n dueddol o droi at Today Radio 4 am fwy o gig rhyngwladol. Mae sawl stori ar Radio Cymru yn ailadrodd Newyddion S4C noson gynt (sy’n anorfod, o rannu darparwr), a’r adolygiadau papurau newydd sy’n rhoi sylw i’r Mail a’r Sun cwbl amherthnasol i Gymru yn dân ar groen. Mae Dros Ginio â’r elfen trafod-rownd-bwrdd rhwng Dewi Llwyd a’i westeion yn apelio mwy.

Gweld eisiau Nia Roberts

O ran rhaglenni byw, mae Rhys Mwyn bob nos Lun a Georgia Ruth nos Fawrth yn ffefrynnau amser swpar, ond dwi’n dal i weld eisiau Lisa Gwilym min nos. Mae’n chwith heb raglen gelfyddydol Nia Roberts (er gwaetha’r un newydd ar bnawniau Sul) a slot Y Silff Lyfrau Catrin Beard. Ac er nad oeddwn i’n wrandäwr pybyr, mae llawer yn hiraethu am nosweithiau Geraint Lloyd. Wn i ddim faint o’i ffyddloniaid sydd bellach yn mwynhau “cwmni cynnes Caryl” fel y trêls, na beth yw’r ffigurau gwrando mewn cymhariaeth. Trueni na wnaeth Rhodri Llywelyn holi Dafydd Meredydd am hyn ar Newyddion S4C. Wedi’r cwbl, mi gafodd y Cardi poblogaidd y sac yn y cyfnod cythryblus a fesurwyd gan RAJAR.

A beth am Radio Cymru 2? Mae Ofcom wedi rhoi sêl bendith a thrwydded i’r ail orsaf ymestyn ei horiau darlledu o 5.30 y bore tan hanner nos gan dargedu “siaradwyr Cymraeg ac unigolion sy’n awyddus i wrando ar gynnwys Cymraeg rhwng 25 a 54 oed, yn enwedig siaradwyr… llai rhugl” (dogfen ‘Penderfyniad Terfynol’, 18 Ionawr 2024). Mae’n dweud taw “dim ond Cymraeg fyddai iaith cyflwyno BBC Radio Cymru 2 a byddai o leiaf 50% o’i cherddoriaeth yn Gymraeg o ran cyfanswm ac ym mhob bloc rhaglenni”.

Gobaith a rheswm perffaith i waredu caneuon Saesneg o Radio Cymru unwaith ac am byth a’u hallfudo i’r ail orsaf felly. A sadio fy mhwysau gwaed mewn tagfeydd traffig yn y dyfodol.