Sam Everton yw Cogydd Ifanc Gorau Cymru wedi iddo ddod i’r brig mewn cystadleuaeth goginio genedlaethol yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd.
Yn ogystal â pharatoi’r bwyd ym mwyty’r Seler yn Aberaeron, mae’r cogydd 25 oed hefyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Ceredigion yn Aberteifi.
Daeth Sam i’r brig gyda phrif gwrs yn cynnwys bîff sirloin Cymreig lleol, bochau buwch, madarch a winwns, a phryd cychwynnol o salad tatws, gnocchi bara lawr, llysiau tymhorol, caws Caerffili, a meipen wedi’i thostio.