Mae yna beryg, bellach, y byddwn ni’n siarad a rhethregu ein ffordd i ganol rhyfeloedd peryglus iawn. O’r awgrym am fyddin y bobol i wynebu Rwsia, i’r ehangu ar yr ymladd yn y Dwyrain Canol, mae’r llwybr yn un llithrig.

Mae yna gymeriadau a mudiadau dienaid ar ddwy ochr y gwrthdaro o gylch Gaza ond mae gwladwriaethau mawr y Gorllewin hefyd yn dangos safonau dwbl sydd mewn peryg o wneud pethau’n waeth. A’r cyfan yn cael ei yrru gan awydd gwleidyddion i gadw gafael ar rym.