Rydw i’n mynd i’r tŷ cyn i’r milfeddyg wneud e. Dim ond dyn ifanc yw e, yn newydd yn y practis, ond mae e o deulu ffermio felly mae e’n deall. Ie, ewch chi am ddishgled, ddywedodd e, yn nodio ac yn edrych ychydig i lawr ar ei welingtons. Ddof i mewn atoch chi ar ôl i fi gwpla. Felly rydw i’n diolch wrtho fe, yn mynd i mewn i’r tŷ ac yn llenwi’r tegell, ac wrth i’r dŵr boethi a’r stêm godi fel tarth bore, rydw i’n sefyll yn llonydd, llonydd.