Mae un o ferched Cwm Rhondda yn cael modd i fyw yn dysgu pobol sut i ddefnyddio peiriant gwnïo i greu dillad allan o bopeth dan haul…

Mae gwniadwraig fu’n creu darnau newydd allan o hen ddillad wedi agor caffi gwnïo, a hynny er mwyn croesawu eraill yno i droi eu llaw at ail-ddefnyddio hen bethau.

O droi llieiniau yn hwdi neu len cawod yn jumpsuit… does yna ddim rheolau a gellir troi unrhyw hen ddeunydd yn ddilledyn yn siop Melfed yn Aberteifi.