Seimon Williams o flog Gwladrugby sy’n edrych ymlaen at Bencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad…
Yn aml iawn ar ddiwedd cylch Cwpan Rygbi’r Byd, bydd nifer o gewri’r gêm yn camu yn ôl, ac felly mae hi eleni. O’r sêr sydd fel arfer yn gwisgo rhif 10, dim ond yr Albanwr Finn Russell a’r Eidalwr Paolo Garbisi fydd i’w gweld eleni. Mae Romain Ntamack o Ffrainc wedi’i anafu, Owen Farrell o Loegr wedi cymryd saib dros dro a Dan Biggar o Gymru wedi cymryd saib parhaol o’r gêm ryngwladol, a’r Gwyddel Jonny Sexton wedi ymddeol o’r gêm yn gyfan gwbwl. Ymysg eraill na fydd yn ymddangos eleni bydd yr asgellwr Louis Rees-Zammit a fydd yn trïo’i lwc yn yr NFL, a’r mewnwr Antoine Dupont – chwaraewr gorau’r byd yn ôl nifer – sydd wedi dewis canolbwyntio ar y gemau Olympaidd ym Mharis yn yr haf, ac sydd felly am geisio meistroli’r gêm saith bob ochr.
Yn wir, mae effaith y twrnament hwnnw i’w weld yn lleoliadau gemau Ffrainc eleni. Nid yn y Stade de France bydd Les Bleus yn chwarae, ond yn Lyon, Lille ac, ar noson agoriadol y bencampwriaeth nos Wener, ym Marseille wrth iddynt herio’r Gwyddelod.
Annoeth yw rhoi gormod o bwyslais ar un gêm mor gynnar â hyn, ond hon yw’r ‘ffeinal’ yn nhyb llawer. Dau dîm gorau Ewrop dros y bedair blynedd ddiwethaf yn cwrdd yn y gêm gyntaf oll. Y Gwyddelod sydd fwyaf sefydlog. Wrth gwrs y bydd absenoldeb Sexton yn gadael bwlch, ond parhad a chysondeb yw neges y prif hyfforddwr Andy Farrell. Peter O’Mahony, y blaenasgwllwr 34 oed, yw’r capten newydd, nid un o’r to ifanc. Mae yna ambell anaf ymysg yr olwyr, a’r rheng flaen yn heneiddio. Ond dyma gasgliad o chwaraewyr sy’n gwybod sut i ennill.
Nid oes yr un wlad yn hemisffer y gogledd yn cynhyrchu gymaint o chwaraewyr o safon â Ffrainc, ond mi fydd eleni’n herio’r ddamcaniaeth, gyda dros 20 o garfan y Chwe Gwlad llynedd ar goll y tro hwn. Yn ogystal ag absenoldebau Dupont ac Ntamack, mi fydd Jelonch, Flament a Bougarit ymysg y sêr fydd yn absennol. Bu newid mawr ymhlith yr hyfforddwyr, ond mae Shaun Edwards, cyn-hyfforddwr amddiffyn Cymru, yn aros yn ei swydd. Pac mawr, trwm a phrofiadol fydd ganddynt, ac mae unrhyw dîm sy’n gallu galw ar ddoniau Jalibert, Danty a Fickou, y gwibiwr ifanc Louis Bielle-Biarrey ac yn enwedig yr asgellwr clasurol Damien Penaud (14 o geisiau mewn 11 gêm yn 2023) yn gwthio am y tlws.
Iwerddon, efallai, yw’r ffefrynnau, ond dim ond o drwch blewyn. Ac eto, anaml iawn y bydd Ffrainc yn colli ym Marseille. Mi fydd yn syndod os oes mwy na sgôr ynddi ar ddiwedd y noson.
Lloegr yn ffau’r llewod
Digon gwan fu perfformiadau Lloegr yn y Bencampwriaeth dros y dair blynedd ddiwethaf. Ers ennill y Chwe Gwlad yn 2020, chwe buddugoliaeth a gafwyd, dwy ymhob un o’r tri tymor. Nid ydynt wedi ennill gêm agoriadol ers 2019, ond does bosib y gwneith hyn newid brynhawn Sadwrn wrth iddyn nhw herio’r Eidalwyr yn Rhufain?
Golwg digon anghyfarwydd fydd i’r Saeson eleni. Mae rhai o fawrion y degawd diwethaf wedi ymddeol. Ambell seren ifanc nawr yn chwarae yn Ffrainc ac felly ddim yn gymwys i Loegr. Eraill wedi’u hanafu, a’r angen i adnewyddu ac ail-adeiladu yn dod â diwedd i gyfnodau eraill yn y garfan, am y tro, o leiaf. Ond mae yna gyffro ymysg y cefnogwyr, gydag arddull agored ac anturus yr Harlecwiniaid a Northampton yn awgrymu newid pwyslais. Pa ddiben dewis chwaraewyr mentrus os am gicio’r bêl i ebargofaint? Eto, anodd yw newid meddylfryd sydd wedi’i wreiddio mor ddwfn dros nos.
O ran yr Eidalwyr, gor-fenter fuodd eu problem nhw ers ychydig o flynyddoedd. Mae tîm Benetton, yn enwedig, wedi cynhyrchu criw ifanc, garw ac addawol iawn. Ond mae yna naïfrwydd tactegol iddynt ar hyn o bryd sydd yn tanseilio’u holl gynnydd. Nhw, mae’n rhaid, oedd y mwyaf siomedig o’r holl dimoedd yng Nghwpan Rygbi’r Byd llynedd. Doedd fawr neb yn disgwyl iddynt ganfod llwybr trwy grŵp oedd yn cynnwys Ffrainc a Seland Newydd, ond llai fyth oedd yn disgwyl dwy gweir gan y cewri – o 60 o bwyntiau i’r Ffrancwyr ac o 90 o bwyntiau i’r Crysau Duon. Mae’r Archentwr o gyn-faswr, Gonzalo Quesada, wedi ymuno yn brif hyfforddwr i geisio rhoi ychydig o siâp ar bethau. Ifanc yw’r garfan o hyd, 25 oed ar gyfartaledd, a difyr fydd gweld effaith yr hyfforddwr newydd arnynt.
Mae’r Eidalwyr yn aml yn cychwyn yn gryf, felly o bosib dyma eu cyfle, gyda Lloegr hefyd yn arbrofi. Ond fe ddylai fod gan y Saeson ddigon o bŵer, os na fydd Quesada yn gallu gwneud gwyrth Gatland-aidd…
Cymru ifanc yn herio ‘Messi’r byd rygbi’
Ac wedyn i Gaerdydd.
Braint ac anrhydedd bydd gweld “Lionel Messi’r byd rygbi” Finn Russell (yng ngeiriau’r dyn ei hun – Russell, hynny yw, nid Messi) yn camu i gau’r stadiwm cenedlaethol amser te ddydd Sadwrn. Roedd gan Russell ei dafod yn ei foch, wrth gwrs, a da yw gweld chwaraewr o gymeriad, yn fentrus ar y cae a gyda’r gallu i ddelifro. Rhoi ei gyd-chwaraewyr yn y bwlch yw un o brif ddyletswyddau maswr, a Russell yw’r meistr ar hynny.
Ychydig iawn o newid sydd i garfan yr Alban eleni. Mae 19 o’r 23 chwalodd Cymru o 35-7 ym Murrayfield llynedd wedi’u dewis eto yn y garfan estynedig. Gregor Townsend, o’r chwe prif hyfforddwr, fuodd yn y swydd hiraf, a hynny ers 2017. Digon anodd fuodd y berthynas rhwng Townsend a Russell dros y blynyddoedd, ond mae yna gadoediad, ac fe enwyd Russell fel un o’r ddau cyd-gapten – ar y cyd â’r blaenasgellwr ifanc Rory Darge – fis diwethaf. Ychydig iawn o anafiadau sydd gan eu chwaraewyr allweddol, er bydd absenoldeb yr asgellwr Shane-Williams-aidd Darcy Graham o’r ddwy gêm gyntaf yn ergyd. Eto, mae cryfder a dyfnder carfan yr Alban wedi’u caniatáu i adael y Llewod Rory Sutherland, Chris Harris a Hamish Watson mas o’r garfan y tro hwn.
Digalon yw record yr Alban yng Nghymru. Er iddynt guro Cymru yn Llanelli adeg y cyfnod clo, nôl yn 2002 ddaeth eu buddugoliaeth ddiwethaf yng Nghaerdydd. Gêm olaf Robert Howley fel mewnwr a chapten oedd honno, fel mae’n digwydd, ac mae ef nôl yn rhan o dîm hyfforddi Cymru am y tro cyntaf ers iddo adael dan gwmwl yn 2019. Mwy o wynebau cyfarwydd ymysg y tîm hyfforddi, felly.
Ond golwg anghyfarwydd iawn sydd i’r garfan y tro hwn. Di-flewyn ar dafod oedd Gatland wrth feirniadu ei olynydd (a’i ragflaenydd) Wayne Pivac am fethu newid digon ar y personél yn ystod ei gyfnod wrth y llyw. Mae Gatland Fersiwn 2 wedi gweddnewid y garfan, er ychydig iawn o ddewis oedd ganddo mewn gwirionedd. Yn ychwanegol i’r ymddeoliadau a diffyg argaeledd, mae nifer o’r to newydd wedi’u hanafu. O’r ddau gyd-gapten yng Nghwpan y Byd, bydd Jac Morgan mas tan yr haf ar ôl llawdriniaeth ar ei ben-glin, tra bydd llinyn y gâr Dewi Lake yn ei gadw mas am gyfnod. Ni fydd profiad Taulupe Faletau na Ken Owens ar gael chwaith.
Felly, ar ôl 15 mlynedd o garfannau oedd yn llawn o’r un hen enwau, mawrion a enillodd cyfresi gyda’r Llewod, Campau Llawn a Choronau Triphlyg, dim ond pedwar Llew sydd ar ôl – George North, Josh Adams, Gareth Davies ac Adam Beard. Chwech o’r tîm gychwynnodd y bencampwriaeth y llynedd sydd ar gael ar gyfer y gêm gyntaf y tro hwn.
I bwysleisio’r newid cyfnod, mae yna bump o chwaraewyr di-gap yn y garfan – y prop Archie Griffin o Gaerfaddon, ac o Gaerdydd y bachwr Evan Lloyd, Alex Mann a Mackenzie Martin yn y rheng ôl, a’r cefnwr cyffrous Cameron Winnett (sydd, gyda llaw, wedi derbyn sylw gan Gregor Townsend am ei fod yn gymwys i chwarae i’r Alban yn ogystal â Chymru – gwell rhoi cap i’r crwt yn gloi, er ei fod yn debygol o golli’r ddwy gêm gyntaf gydag anaf). Mae yna hefyd wyth arall sydd byth wedi chwarae yn y bencampwriaeth.
Dewis Dafydd Jenkins yn “syndod”
Tra bod carfannau’r gwledydd eraill ar y cyfan yn araf esblygu, gan roi eu ffydd fel capten yn yr hen bennau fel Jamie George o Loegr (33 oed), Peter O’Mahony y Gwyddel (34 oed) a Finn Russell (31 oed), dim ond ym mis Rhagfyr cafodd capten newydd Cymru, Dafydd Jenkins, ei ben-blwydd yn 21 oed. Roedd ei benodiad yn syndod, achos y farn gyffredinol oedd mai Adam Beard a Will Rowlands – un o’r ychydig unedau profiadol a sefydlog sydd ar gael i Gatland – fyddai’n cychwyn yn yr ail reng. Cawn weld.
Mae gan Gatland yr opsiwn o ddewis 15 profiadol, ar y cyfan, i gychwyn y gêm. Y cwestiwn yw i ba raddau y bydd yr hyfforddwr yn parhau gyda’i arfer y llynedd o newid y chwaraewyr ac arbrofi o gêm i gêm. Ar ôl ei gyfnod bant o’r wlad, roedd angen iddo weld beth oedd ar gael iddo’r gwanwyn diwethaf. Wedi Cwpan Rygbi’r Byd – a’r cyfnod paratoi hirfaith – mae ganddo syniad reit dda o gryfderau a gwendidau ei chwaraewyr.
Ac er y diffyg profiad mewn rhai adrannau o’r garfan, mae Gatland wedi dewis gadael hen bennau mas – dim lle i Dillon Lewis na Henry Thomas y propiau, felly Leon Brown fydd y prop pen tynn mwyaf profiadol gyda 23 o gapiau, tra mai dau o gapiau sydd gan Keiron Assiratti ac Archie Griffin rhyngddynt. Sam Costelow, y maswr o Lanelli, yw’r ffefryn i wisgo crys rhif 10, ond dim ond wyth o gapiau sydd ganddo, tra bod y ddau faswr arall yn hynod o ddibrofiad. Eleni cafodd Ioan Lloyd gyfnod eithaf estynedig yn y safle am y tro cyntaf, a dau gap sydd ganddo. Cefnwr, fel arfer, yw Cai Evans, ac yno cafodd ei un cap ef, ond fel maswr cafodd ei ddewis y tro hwn. Mae yna brofiad tu fewn yn safle’r mewnwr, a thu fas yn y canol os mai Nick Tompkins a George North fydd yn cychwyn. Ond mae’n dipyn o newid gêr i weld chwaraewyr mor ddibrofiad yn rhedeg y sioe yn y crys chwedlonol hwnnw.
Gweddïo am fomentwm
Disgwyl digon o boen dros y flwyddyn neu ddau nesaf (cyn i bethau wella, gobeithio) yw barn y gwybodusion. Ac eto, digon hyderus yw Gatland wrth siarad gyda’r wasg. Mae’n awgrymu y bydd ei dîm ifanc yn synnu rhai, gan sôn am bwysigrwydd y gêm gyntaf i fomentwm y tymor. O ennill y gyntaf, bydd hyder yn llifo wrth fynd i Twickenham, ac wedyn cyfle i ennill y Goron Driphlyg…
Serch hynny, anodd yw gweld tu hwnt i fuddugoliaeth i’r Alban. Mae ganddynt dîm profiadol, ar ac oddi ar y cae, a ffordd o chwarae sy’n gweithio iddyn nhw. Efallai nad yw’r pac mor gorfforol â rhai, ond fe ddylai fod â digon i ennill goruchafiaeth ar bropiau ifanc Cymru. Ac mae trefn y gemau’n ffafriol iddynt – mae’r ddwy gêm hawsaf (ar bapur, o leiaf) yn erbyn yr Eidal a Chymru oddi cartref, ac yna Ffrainc a Lloegr yn gorfod ymweld â Chaeredin, cyn gorffen yn Nulyn.
Ond ni fydd yr Alban yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl gan Gymru, a dydyn nhw ddim yn hoffi chwarae yng Nghaerdydd, a dyma’r gêm gyntaf, ac efallai bydd gan Gatland rhyw gynllun…
I aralleirio bardd Glyn-nedd, Max Boyce, hawdd yw ymdopi gydag anobaith. Y gobaith sy’n drech ar gefnogwyr rygbi Cymru’r adeg hon bob flwyddyn.
Cymru v Yr Alban yn fyw ar S4C, y gic gyntaf am 4.45 bnawn Sadwrn