A ninnau ar drothwy Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad unwaith eto, mae un peth yn saff, bydd digon o wy ar ein sgrin dros y ddeufis nesaf i greu omlet i deulu o ddeg… A chwstard i bwdin.

Ond, ai felly fydd hi ymhen blynyddoedd i ddod? Daeth galwadau’n ddiweddar ar i’r twrnamaint rygbi gael ei ychwanegu i’r rhestr o “grown jiwals” y byd chwaraeon. Mewn geiriau eraill, y digwyddiadau chwaraeon y mae’n rhaid eu darlledu ar deledu yn rhad ac am ddim.