Nid oeddwn i’n gwbl siŵr beth i’w ddisgwyl o gyfres newydd S4C, Taith Bywyd. Yn cael ei disgrifio fel taith arbennig i chwe wyneb adnabyddus o Gymru a chyfle i gwrdd â’r bobl wnaeth newid eu bywydau a dylanwadu ar eu gyrfaoedd; dwn’im… roedd o’n fy nharo i fel syniad braidd yn wan am raglen.