Ar ôl iddi glywed y newyddion, teimlodd Gwenno rywbeth y tu mewn iddi’n ildio. Doedd pethau heb fod yn iawn ers talwm; ers blynyddoedd, a dweud y gwir, byth ers i’r sibrydion am gau’r ffatri sleifio fel nwy gwenwynig i mewn i’w cartref, y perygl o golli bywoliaeth yn mynnu ei bresenoldeb o hyd. Ond rŵan, roedd o’n mynd i ddigwydd, go iawn. Ac roedd o’n mynd i ddigwydd i bawb.