Ar bapur, fe ddylai fy Saesneg i fod yn arbennig o dda. Dwi’n ennill fy mara menyn yn cyfieithu, felly’n darllen yr iaith bob dydd. Mae gen i addysg. Fe gefais fy magu ar aelwyd ddwyieithog. Mi fûm i’n byw yng Nghaerdydd am tua ugain mlynedd, ac yn siarad Saesneg bob dydd. A dweud y gwir, ar ôl cael y ci, mi fûm i’n siarad mwy o Saesneg nag ydw i erioed wedi wrth gwrdd â’r bobl yn y parc bob dydd ac yn gyffredinol wrth fynd i gaffis a thafarndai a gwneud niwsans o fi fy hun.