Helfa yw’r olaf mewn cyfres o dair nofel am y ditectif Sally Morris gan yr awdur poblogaidd Llwyd Owen, a’r seithfed nofel iddo ei lleoli ar stâd Gerddi Hwyan. Bu Golwg yn holi’r nofelydd am ei greadigaeth lenyddol ddiweddaraf…

O ran ei chymeriad, sut mae Sally Morris wedi datblygu erbyn y nofel yma? Mae hi wedi bod drwy’r drin ers ei thrawma fawr yn y nofel gyntaf, Rhedeg i Parys…