Mae tawelwch y grymoedd Prydeinig – y wasg, y pleidiau a’r sefydliad – ynghylch adroddiad y Comisiwn cyfansoddiadol yn awgrymu pa mor anodd fydd hi i gyflawni’r un o’r amcanion sydd ynddo fo.

Pa wahaniaeth? Pwysigrwydd yr adroddiad clir, cryno a doeth ydi ei fod yn gosod trafodaeth datganoli ac annibyniaeth ar seiliau cadarn, yn dangos y posibiliadau a’r anawsterau sydd ynghlwm wrth bob dewis.