Mae’r cyflymder cyfartalog ar ffyrdd 20 milltir yr awr y wlad wedi gostwng o 22.7 i 20.3…

Mae pobol Cymru, yn gyffredinol, yn cydymffurfio gyda’r terfyn cyflymder 20mya yn ôl data newydd.

Daw hyn wedi i’r cwmni Agilysis ddehongli data a ddarparwyd gan gwmni Tom Tom ar gyfer miloedd o ffyrdd Cymru.

Yng Nghymru gyfan, gostyngodd y cyflymder cyfartalog o 22.7mya i 20.3mya rhwng mis Medi a Rhagfyr.