Prosiect pop sinematig pâr o ddau begwn gwahanol o’r byd cerddorol yw Siula.

Yn swnio fel traciau sain breuddwydiol i ffilm noir fodern, mae sengl ddwbl gyntaf Siula wedi plesio’n fawr. Wrth gymysgu cariad Llion Robertson at gerddoriaeth electroneg, a chariad Iqra Malik at bop, mae’n gyfuniad perffaith.

Nid dyma unig brosiect cerddorol Llion chwaith gan ei fod yn un hanner o Cotton Wolf gyda’r cyfansoddwr clasurol Seb Goldfinch.