Dw i’n dal i gofio’r wefr o ffeindio sleifar o slej fyny ar lethrau Chwarel Dinorwig, oedd yn lot gwell peth nag oeddan ni wedi arfer ag o.
Cyn y slej yma, pan fyddai eira, mi fydden ni yn eistedd ar fagiau plastig i fynd lawr Cae Lwmp, ag ambell nytar yn mynd lawr ar hen fonat car. Mae gen i ryw gof o gyfaill yn glanio yn yr afon. Beryg bywyd!