Mae Gruffudd ab Owain wedi bod yn rhwbio ei belen grisial ac yn proffwydo cyffro yn y byd seiclo…

Ar ddechrau blwyddyn fel hyn, yn naturiol, mae yna ryw duedd i feddwl nid yn unig am addunedau, ond hefyd am ddarogan a phroffwydo.

Felly, dw i am ddarogan hyn: 2024 fydd y flwyddyn fwyaf yn hanes seiclo proffesiynol yng Nghymru.