Ar yr adeg hon o’r flwyddyn mae yna Gymry sy’n mynd i’r Alpau i fwynhau gwyliau sgïo hamddenol a hwyliog. Ond mae eraill yn cymryd y gamp ychydig yn fwy o ddifrif. A Meilyr Emrys sydd â hanes y Cymry rheiny sy’n cystadlu gyda’r goreuon…

Y penwythnos hwn, bydd sgïwyr alpaidd gwrywaidd gorau’r byd yn Kitzbühel, Awstria, ar gyfer uchafbwynt blynyddol cylchdaith Cwpan y Byd y Fédération Internationale de Ski et de Snowboard (FIS). Cynhaliwyd y Hahnenkamm Rennen (neu ‘Rasys Mynydd Crib y Ceiliog’) gyntaf ym 1931 ac yn sgil eu hirhoedledd a natur arswydus o heriol cwrs enwog y Streif – sydd dros ddwy filltir o hyd ac sy’n disgyn ar raddiant o 85% yn ei ran fwyaf serth – mae’r digwyddiad wedi hen ennill ei blwyf fel un o’r pwysicaf ac uchaf ei fri ar galendr chwaraeon y gaeaf.

Gan ddechrau gyda’r Kitzbühel Abfahrt ar fore Gwener, mae amserlen eleni’n cynnwys tair ras. Ond yr ail ohonynt – fydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn – yw’r un y mae mwyaf o edrych ymlaen ati, o bell ffordd. Yn wir, mae’r Hahnenkamm Abfahrt – sef y ras sy’n cwmpasu’r Streif yn ei gyfanrwydd – wedi cael ei disgrifio fel ‘SuperBowl y byd sgïo’ a’i chymharu gyda rownd derfynol Cwpan Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, o ran ei harwyddocâd.

Ar ôl ennill y ddwy ras lawr rhiw (neu ‘downhill’) flaenorol – a gynhaliwyd ar gwrs hirfaith y Lauberhorn, yn Wengen, wythnos diwethaf – Marco Odermatt yw’r ffefryn i ragori yn y Tyrol, ddydd Sadwrn yma, hefyd. Er nad yw’r gŵr o’r Swistir wedi llwyddo i sicrhau buddugoliaeth yn Kitzbühel o’r blaen, ef yw deiliad presennol y glôb crisial sy’n cael ei gyflwyno i enillydd blynyddol Cwpan y Byd a chafodd hefyd ei goroni’n bencampwr lawr rhiw y byd yn Courchevel, Ffrainc, fis Chwefror diwethaf.

Wedi i gewri cyhyrog y rasys cyflymder uchel ymgodymu gyda’r llethrau ddydd Gwener a dydd Sadwrn, bydd sgïwyr technegol gorau’r byd yn cael cyfle i ddisgleirio yn Kitzbühel fore Sul, pan fydd penwythnos y Hahnenkamm Rennen yn dod i ben gyda ras ychydig yn fwy hamddenol – ond yr un mor heriol – ar gwrs y Ganslernhang (sy’n rhedeg ochr yn ochr â gwaelod y Streif). Yn hytrach na hyrddio eu hunain i lawr y mynydd ar gyflymder o hyd at 90 milltir yr awr, bydd y cystadleuwyr yn ras y slalom yn ymgymryd â chyfres o droadau tynn, wrth iddynt wau eu ffordd drwy ddrysfa o ‘giatiau’ coch a glas (sy’n cael eu creu drwy osod polion ar golfachau yn yr eira). Y sgïwr gyda’r amser cronnus cyflymaf wedi dwy daith i lawr y llethr fydd yn ennill.

Cymro Ffrengig yn creu hanes

Hawliodd Dave Ryding – o Bretherton, yn Sir Gaerhirfryn – fuddugolaieth hanesyddol yn slalom Kitzbühel ddwy flynedd yn ôl: ag yntau eisoes wedi gorffen yn ail yn y ras gyfatebol yn 2017, camodd ‘y Roced’ i frig y podiwm yn 2022, wedi iddo gwblhau’r ddau gymal 0.38 eiliad yn gyflymach na Lucas Braathen (o Norwy). Hwnnw oedd y tro cyntaf (a’r unig dro hyd yma) i Brydeiniwr ennill ras ar gylchdaith Cwpan Sgïo Alpaidd y Byd. Roedd Ryding hefyd yn ail ar y Ganslernhang y llynedd ac er bod y Sais yn 37 mlwydd oed bellach – gyda phrofiad yn arf mor werthfawr wrth gystadlu ar y Hahnenkamm – bydd gwerth cadw llygad arno unwaith eto’r penwythnos hwn.

Sgïwr arall sydd bellach yn cystadlu’n rhyngwladol o dan faner Prydain – gan arbenigo yn y slalom – yw Edouard Guigonnet. Fel mae ei enw’n awgrymu, Ffrancwr yw Ed o ran ei enedigaeth ac yn ne orllewin y wlad honno – fel aelod o glwb cyrchfan Les Ménuires, yn ardal Les Trois Vallées (‘Y Tri Dyffryn’) – y dechreuodd gymryd rhan mewn rasys sgïo alpaidd, pan oedd yn blentyn. Ond wedi iddo golli ei le yn nhîm rasio dan 18 ardal Tarentaise, penderfynodd Guigonnet fanteisio ar y ffaith bod ei gefndir teuluol hefyd yn caniatáu iddo gynrychioli gwlad arall: newidiodd ei genedligrwydd ar ei drwydded FIS a gan fod ei fam gu a’i theulu’n hanu o Sir Benfro, mae’r llanc 22 oed yn awr yn cael ei ystyried yn Gymro pan mae’n gwibio i lawr y llethrau.

Ag yntau eisoes wedi cystadlu ym Mhencampwriaethau Sgïo Alpaidd Iau’r Byd ar ddau achlysur – gan orffen yn 13eg yn ras y Super G yn 2021 ac yn 19eg yn y slalom y flwyddyn ganlynol – dyrchafwyd Ed i fod yn aelod o dîm hŷn Prydain ar gyfer prif bencampwriaethau’r byd, ym mro ei febyd, y llynedd. Cymerodd ran yn y slalom a’r ras gyfun (sef Super G, wedi ei ddilyn gan gymal o slalom) yn Courchevel ac yn sgil hynny, ef oedd y Cymro cyntaf i gystadlu am fedalau sgïo alpaidd byd-eang ar y lefel uchaf ers i Robbie Hourmont gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Calgary ym 1988.

Fis yn ddiweddarach, dychwelodd Ed Guigonnet i Ddyffryn Tarentaise i sicrhau’r fedal efydd yn y slalom ym Mhencampwriaethau Alpaidd Prydain 2023 (a gafodd eu cynnal yn Tignes). Billy Major a Laurie Taylor – sef dau o aelodau mwyaf blaenllaw carfan Cwpan y Byd GB Snowsport – oedd yn drech na’r Cymro Ffrengig y diwrnod hwnnw a bydd y ddau ohonynt hwy yn cystadlu ar y Hahnenkamm y penwythnos hwn. Ond ni fydd Ed yn Kitzbühel eleni, oherwydd aelod o garfan Cwpan Ewropa (neu ‘ail dîm’) Prydain yw ef ar hyn o bryd ac felly ar rasys sy’n rhan o gylchdeithiau rhyngwladol eilaidd a thrydyddol y FIS y mae ef yn canolbwyntio’n bennaf y gaeaf hwn: wedi iddo sicrhau’r pedwerydd safle mewn ras yn Sweden ar ddiwedd Tachwedd, llwyddodd y Cymro i orffen yn chweched a seithfed mewn slalomau yn ne Bafaria ac Awstria yn ystod mis Rhagfyr. Yn ôl ei wefan (edguigonnetski.com), prif nod Ed dros y blynyddoedd nesaf yw sicrhau lle ym mhrif dîm sgïo alpaidd Prydain, mewn pryd i gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2026.

Cymraes yn Bencampwraig Brydeinig

Aelod arall o Garfan Sgïo Elît Cymru sy’n gobeithio cael cystadlu am fedalau ym mynyddoedd y Dolomitiau mewn dwy flynedd yw Giselle Gorringe. Er mai dim ond 20 oed yw ‘Gigi’, mae hi wedi mwynhau cryn lwyddiant yn barod, gan ei bod hi eisoes wedi cael ei choroni’n bencampwraig Prydain mewn dwy ras wahanol: ar ôl cael ei mentora a’i hyfforddi am gyfnod gan Chemmy Alcott (fu’n aelod o dîm Gemau Olympaidd y Gaeaf Prydain ar bedwar achlysur rhwng 2002 a 2014), enillodd Gorringe y Super G ym mhencampwriaethau’r pedair gwlad ar ddiwedd tymor 2021-22, cyn dychwelyd i Tignes ac arwain y blaen yn y slalom – ar yr un llethr – flwyddyn yn ddiweddarach (ar yr un diwrnod ag y sicrhaodd Ed Guigonnet ei drydydd safle yn ras y dynion).

Cafodd ‘Gigi’ hefyd brofiad o gystadlu ym Mhencampwriaethau Iau’r Byd (yn Sankt Anton) ym mis Ionawr 2023 ac mae hi wedi parhau i greu argraff ers hynny, wrth deithio’r byd gyda charfan datblygu alpaidd GB Snowsport: sicrhaodd bum buddugoliaeth mewn dim ond naw diwrnod yn yr Ariannin fis Awst diwethaf, cyn gorffen yn y deg uchaf ar bob achlysur ond un yn ystod cyfnodau o rasio dwys yn Chile (ar ddiwedd Medi) a Tsieina (ar ddechrau Rhagfyr). Dychwelodd i Ewrop ar gyfer y Nadolig a’r flwyddyn newydd, gan gymryd rhan mewn cyfres o rasys yng ngogledd yr Eidal, ble mae hi bellach yn treulio llawer o’i hamser yn ymarfer. Yn Cortina d’Ampezzo oedd ras ddiweddaraf Gorringe ac yno fydd y cystadlaethau sgïo alpaidd Olympaidd nesaf yn cael eu cynnal, mewn pum mis ar hugain.

Un o Gymry Llundain yw Giselle, ond er iddi gael ei geni ym mhrifddinas Lloegr – gyda thad o Frynbuga a mam gu o Ynys y Barri – dywed y sgïwraig ifanc iddi gael ei magu fel Cymraes ac felly nad oedd unrhyw amheuaeth mai ‘Gwlad y Gân’ fyddai’n cael ei nodi fel ei chenedl ar ei thrwydded rasio. Pwysleisiodd Gorringe ei bod yn eithriadol o falch o’i gwreiddiau Cymreig mewn cyfweliad gyda BBC Sport Wales yn 2021, gan ddatgan ei bod yn bwriadu manteisio ar ei phrofiad o astudio cyrsiau ieithoedd Safon Uwch / Lefel A, er mwyn mynd ati i ddysgu Cymraeg.

Y Gymraes o Ganada

Y tu hwnt i’r llethrau alpaidd, llinach Gymreig Sophia Wilson sy’n gyfrifol am ei phresenoldeb hithau yng Ngharfan Perfformiad Nordig GB Snowsport hefyd. Yn nhref Canmore – sydd wedi ei lleoli ym mynyddoedd y Rockies, yn Alberta – y magwyd y sgïwraig traws gwlad 19 oed, sy’n arbenigo mewn rasys gwibio (hyd at 1.5km) a phellteroedd byr (o hyd at 10km). Ond ar ôl dechrau ei gyrfa yn cynrychioli Canada mewn rasys ieuenctid ac ar gylchdaith Cwpan Nor-Am (sef un arall o gystadlaethau ‘ail haen’ y FIS), penderfynodd Sophia ymuno â thîm Prydain cyn dechrau tymor 2022-23. Yn anffodus, dioddefodd anaf i’w choes yn fuan wedi hynny ac amharodd hynny’n fawr ar ei misoedd cyntaf gyda’i thîm newydd. Ond llwyddodd y Gymraes o Ganada i wella mewn pryd i wneud ei hymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaethau Iau’r Byd, yn Whistler, ym mis Chwefror y llynedd.

Tan yn ddiweddar, roedd Cymraes yn aelod blaenllaw o brif dîm eirafyrddio Prydain hefyd. Roedd Maisie Potter, o Fangor, yn wyneb cyfarwydd ar gylchdaith Cwpan y Byd am chwe thymor tan iddi roi’r gorau i rasio’n rhyngwladol ddwy flynedd yn ôl. Wedi iddi sicrhau canlyniad clodwiw – drwy orffen yn bedwerydd ar ddeg – ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Sbaen ym mis Mawrth 2017, chwalwyd ei gobeithion o gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Pyeongchang y flwyddyn ganlynol pan dorrodd ei sawdl wrth baratoi ar gyfer cystadleuaeth yn Pitztal, Awstria. Ar ôl treulio blwyddyn yn adfer a gwella o’r anaf difrifol hwnnw, llwyddodd Maisie i ddychwelyd i gystadlu ar y lefel uchaf, ond dinistriwyd ei breuddwyd Olympaidd unwaith eto yn 2022, pan benderfynodd y gymdeithas Brydeinig (BOA) wrthod gwahoddiad i anfon ail fyrddwraig i rasio (ochr yn ochr â Charlotte Bankes) yng ngemau gaeafol Beijing, er bod cyn-ddisgybl Ysgol Friars yn gymwys i lenwi’r lle ychwanegol oedd ar gael.

Er nad yw hi’n reidio ei bwrdd yn gystadleuol erbyn hyn – â hithau dal ddim ond yn 26 mlwydd oed – mae Maisie’n parhau i ‘ryddfyrddio’ er ei phleser ei hun ac ar yr un pryd, mae hi hefyd bellach yn hyfforddi rhai o eirafyrddwyr ifanc gorau Awstralia. Bydd pedwar o’r rheini yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd Ieuenctid y Gaeaf, yn Gangwon, De Corea, y penwythnos hwn.