Mae Ysgrifennydd Cysgodol Cymru wedi bod yn trafod sut berthynas fyddai rhwng y blaid Lafur yn Llundain a Chaerdydd, pe bai Keir Starmer yn cipio grym…

 

Jo Stevens yw Ysgrifennydd Cysgodol Cymru ac mae hi’n cynrychioli ardal Canol Caerdydd yn San Steffan ers 2015.

Ar hyn o bryd mae hi wedi bod yn ei rôl yn y Cabinet Cysgodol ers 2021 a buodd hi hefyd yn cyflawni’r un swydd rhwng 2016 a 2017.