Os ydych yn hoff o’r Ceidwadwyr, trowch i’r dudalen nesaf…

Wrth i mi sgwennu hwn mae yna bôl piniwn ar flaen y Daily Telegraph sy’n rhagweld y blaid yn colli 196 sedd yn yr Etholiad Cyffredinol. Mae hynny’n waeth na’r colledion yn 1997, wrth i Tony Blair gipio’r goron oddi ar John Major druan. Yn y cyfamser, fe fyddai Keir Starmer (sy’n credu mewn… ummm… err… oes unrhyw un yn gwybod?) yn mwynhau mwyafrif o 120.