Fe soniais i am rai o uchafbwyntiau gwylio’r Nadolig yr wythnos diwethaf yn do. Wel, roedd yna un peth arall Cymreig, os nad Cymraeg, a aeth â fy sylw dros yr ŵyl.

Ffilm a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar y BBC rhwng y Nadolig â’r flwyddyn newydd yw Men Up. Ffilm am y treial clinigol cyntaf erioed o’r cyffur viagra, a gafodd ei gynnal yn Abertawe o bob man yn 1994.

Roeddwn i wedi gweld ambell hysbyseb, am y ffilm nid y cyffur, a rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i’n rhy obeithiol. Roeddwn i’n disgwyl ryw fersiwn eilradd o The Full Monty, gyda’r cysylltiad Cymreig o bosib yn ddigon i gynnal fy niddordeb am awr a hanner. Ond wir i chi, cefais fy siomi ar yr ochr orau. Roedd hi’n wirioneddol dda.

Stori syml yw hi yn ei hanfod yn dilyn pum dyn canol oed, nifer yn dioddef gyda chlefyd siwgr, wrth iddynt gymryd rhan yn y treial meddygol o dan ofal Dr Dylan Pearce (Aneurin Barnard) yn Ysbyty Treforys. Dyna’r peth gyda darnau o ffuglen sydd yn seiliedig ar straeon gwir, mae’n anodd iawn eu gwneud nhw’n fwy dramatig nag oedden nhw mewn gwirionedd. Os am aros yn driw i’r hanes hynny yw.

Ond nid y treial ei hun yw’r stori yn fan hyn mewn gwirionedd. Wedi’r cwbl, rydym i gyd yn gwybod ei fod wedi bod yn llwyddiannus yn y pen draw. Na, straeon yr unigolion sydd yn gwneud y ffilm, stori’r pum dyn a stori’r cyfeillgarwch a’r frawdoliaeth sydd yn datblygu rhyngddynt. A thrwy’r straeon unigol hynny, cyffyrddir ar ambell thema berthnasol arall o’r cyfnod hefyd; homoffobia sefydliadol, er enghraifft. Ac o ran codi’r drych hwnnw i gyfnod penodol ac i gymdeithas yn ei holl amrywiaeth, a rhoi criw annhebygol o gyfeillion at ei gilydd, mae hi’n debyg iawn i The Full Monty yn hynny o beth.

Sôn am y pump, ceir perfformiadau clodwiw gan bob un; Iwan Rheon, Phaldut Sharma, Paul Rhys, Steffan Rhodri a Mark Lewis Jones. Cawsant eu cefnogi gan gast cryf ond rhaid crybwyll Alexandra Roach yn benodol. Mae ei pherfformiad hi fel Ffion, gwraig un o’r dynion sydd yn rhan o’r arbrawf, yn aruthrol. Mae’r actores 36 oed o Rydaman wedi cyflawni cryn dipyn yn ei gyrfa eisoes, o Pobol y Cwm i The Iron Lady ac o Killing Eve i Y Golau, ond dichon mai hwn yw ei pherfformiad gorau eto. Yn deimladwy, yn llawn angerdd cynnil ac emosiwn hollol gredadwy, mae hi’n serennu. Ac mae’r berthynas ar sgrin rhyngddi hi ac Iwan Rheon yn taro deuddeg hefyd.

Cast cryf yn wir a hwnnw’n gast cyfan gwbl Gymreig, sydd yn wych i’w weld. Ffilm wedi ei chynhyrchu gan Gymro hefyd yn Russell T Davies ac wedi ei lleoli a’i saethu yng Nghymru. Ac am leoliad i’w saethu gyda llaw. Mae Abertawe, gyda’i daearyddiaeth fryniog a’i gelltydd serth, yn cynnig lefelau naturiol ar gyfer siots trawiadol. Bydd sawl un wedi dotio at olygfeydd godidog o Nant Ffrancon a Beddgelert yn Mr Bates vs The Post Office yn ddiweddar ac mae’n bwysig fod Cymru’n cael ei gweld ar y rhwydwaith deledu ledled Prydain, a hynny’n wlad a thref.

A dyna ni, un colofnydd balch iawn, wedi llwyddo i drafod y pwnc hwn am 500 gair heb gynnwys yr un innuendo anaeddfed. Gwaith caled.

Mae gan gwmni Golwg bodlediad newydd, ‘Ar y Soffa’, gyda Gwilym Dwyfor a Dr Kate Woodward o Adran Fflm a Theledu Prifysgol Aberystwyth