Mae Will Evans wedi sgorio 15 gôl mewn 22 gêm i Gasnewydd eleni. Dim ond 18 mis yn ôl, roedd Will yn gweithio ar fferm ei Dad yn Llangedwyn, y pentref yn Sir Drefaldwyn sydd ddim ond tair milltir o Sycharth, hen gartref Owain Glyndŵr. Roeddwn i’n gwylio Will yn chwarae yn aml i Met Caerdydd pan roedd fy mab yn y coleg yna yn 2018. Mae yn rhaid i fi gyfaddef doeddwn i ddim yn rhagweld y llwyddiant mawr mae e wedi cael ers troi yn broffesiynol.