Derbynebau. Ym mhob man. Roedd Derfel yn eu cadw nhw yn nrôr gwaelod ei ddesg, yn eu gwthio i mewn yn ddi-drefn nes bod mis Ionawr yn dod, a’r cyfnod llenwi ffurflenni treth. Yna, byddai’n gwagio’r drôr ac yn pori dros bob derbynneb, yn trio cofio pam fod £15.78 yn Costa ym mis Mawrth wedi cyfri fel costau gwaith, ac yn meddwl lle aeth derbynneb y cyfrifiadur a brynodd yn yr haf ar ôl i’r hen un gael ei ddwyn. Gosododd yr hirsgwariau bychain aflêr ar lawr y stydi, pentwr ar gyfer pob mis, a gwel