Mae digrifwraig o Wynedd yn edrych ymlaen at deithio lawr yr A470 i fod yn rhan o noson gomedi Gymraeg arbennig yn y brifddinas…
“Mae gigs fel Laffwyl mor werthfawr.” Dyna farn perfformiwr comedi o Borthmadog a fydd yn cymryd rhan yn yr ail mewn cyfres o nosweithiau stand-yp Cymraeg yng Nghaerdydd, ar noson Santes Dwynwen ddydd Iau nesaf (25 Ionawr).
Er mwyn gallu paratoi set broffesiynol lawn, mae eisiau i ddigrifwyr newydd gael y cyfle i brofi ac addasu eu deunydd, ac mae’r cyfleoedd hynny yn brin yn Gymraeg, yn ôl Caryl Burke. Mae hi wrthi’n perfformio comedi ers 2021 ac mae ganddi filoedd o ddilynwyr ar ei chyfri TikTok, yn mwynhau ei math arbennig hi o gomedi hunan-ddychanol, yn llawn straeon am droeon trwstan ei dêts carwriaethol a’i bywyd fel hogan sengl.
Fe fydd hi’n rhannu llwyfan Laffwyl yn Nhafarn Fictoria Parc gyda’r digrifwyr Carwyn Blayney a Geth Evans, a bydd y noson dan ofal y digrifwr Aled Richards, trefnydd nosweithiau Laffwyl. Bu’r cyntaf yn y gyfres yn niwedd mis Medi 2023.
“Dw i wedi gigio eitha’ dipyn efo Aled sy’n trefnu’r gig, yn ystod Steddfod a ballu – mae o’n briliant,” meddai Caryl Burke, a gafodd ei magu ym Mhorthmadog ond a symudodd i Gaernarfon ar ôl dechrau gweithio yn y diwydiant teledu.
Fel arfer fe fydd hi’n mynd ar hyd yr A55 i gyfeiriad Caer, Lerpwl a Manceinion i wneud gigs, am ei bod hi’n gallu eu gwneud nhw gyda’r hwyr ar ôl gwaith. “Mae’n anoddach i fynd lawr i Gaerdydd ond dw i’n ddiolchgar am gael mynd lawr yna,” meddai.
“Mae Gethin a fi am deithio lawr efo’n gilydd ac mae’n braf gallu gwneud hynna. Dw i wedi gwneud dipyn o gigs efo Geth, a dw i’n meddwl ei fod o’n briliant. A dw i’n meddwl bod Carwyn Blayney yn un o’r bobol fwya’ egseitin sydd yn (y byd) stand-yp Cymraeg. Mae o wedi gigio cymaint yn Llundain ac wedi bod yn gwneud mwy yng Nghymru. Dw i’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o’r gig.”
Cyfle prin i ddangos ei dawn
Laffwyl ydi’r math o nosweithiau sydd eu hangen ar y newydd-ddyfodiaid i’r sîn gomedi Gymraeg, yn ôl Caryl Burke.
“Mae o yn syniad da iawn, ac yn werthfawr iawn i gomedïwyr.
“Mae Gŵyl [Gomedi] Machynlleth yn amlwg yn ŵyl eitha’ mawr, a’r flwyddyn ddiwethaf mi wnaeth rywun drydar yn cwyno bod yna ddim digon o sioeau Cymraeg yna.
“Dw i ddim yn siŵr a yw pobol yn sylweddoli faint o waith ymarfer sydd ei angen i gynhyrchu sioe dri chwarter awr o hyd. Mae yna angen cymaint o gigs bach i weld beth sy’n gweithio a beth sydd ddim. Felly mae gigs fel Laffwyl mor werthfawr.
“Mae’n rhoi cyfleoedd i bobol newydd fel fi, sydd heb lawer o enw yn unlle, yn enwedig yng Nghaerdydd, ond hefyd i bobol a fydd yn gweithio ar sioeau, er mwyn iddyn nhw gael ymarfer ar bethau newydd.
“Yr unig ffordd o gael fwy o sioeau mawr mewn llefydd fel Machynlleth, Aberystwyth, neu Gaeredin ydi cael nosweithiau fatha Laffwyl. I fi, mae’n eitha’ prin cael gig fel yna yn Gymraeg hefyd.”
Dêts trychinebus a straeon eraill
Gan y bydd Laffwyl ar noson Santes Dwynen mae Caryl Burke yn bwriadu siarad dipyn am ei phrofiadau yn mynd ar ddêts ac am fod yn ferch sengl.
“Mae hi’n noson berffaith i fi siarad am y pethau dw i’n mwynhau siarad amdanyn nhw fwya’ – sef fi’n hun!
“Mae’n gweddu yn eitha’ da efo’r pynciau dw i’n eu trafod beth bynnag.
“Dw i ddim yn sgwennu jôcs traddodiadol efo set-yp a punchline. Mae o’n fwy o straeon o ryw bethau doniol sydd wedi digwydd. Fyddwn i’n dweud fy mod i’n eitha’ self-deprecating – dw i ddim yn leicio tynnu ar bobol eraill. Dw i’n tueddu i dynnu arnaf i fy hun fwy na dim byd.”
Dyw hi ddim yn siŵr o ble daeth yr ysfa sydd ynddi hi i ddifyrru pobol. “Roedd Mam yn leicio cyfle i gael cynulleidfa neu berfformio,” meddai. “Tydi Dad ddim fel yna o gwbl, ond mae o yn ddoniol – mae o yn leicio dweud stori. Felly dw i’n meddwl fy mod i’n gyfuniad ychydig bach rhwng y ddau riant.”
Gig er cof am mam
Mae Caryl Burke wrthi’n trefnu gig ei hun am y tro cyntaf erioed, sef noson gomedi elusennol ym Mhorthmadog er cof am ei mam, a fu farw yn 2021.
Byddai ei mam wedi bod yn 60 oed ym mis Mawrth, ac roedd Caryl am nodi’r dyddiad gyda noson gomedi i godi arian at Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd, lle bu ei mam yn glaf, drwy elusen Awyr Iach.
Hi fydd yn llywyddu’r noson yn y Ganolfan yn Port ar 23 Mawrth, yn cyflwyno rhai o sêr y byd comedi cyfoes Cymraeg – Tudur Owen, Mel Owen, Gareth yr Orangutan, Carwyn Blayney, Al Parr, a Katie Gill-Williams.
“Mae’r lein-yp yn eitha’ anhygoel,” meddai. “Mae pawb wedi dweud ei fod o’n fraint cael dod i’w wneud o. Dw i’n eitha touched bod pawb wedi cytuno. Gan fod cyn lleied ohonon ni’n gwneud stand-yp yn Gymraeg, rydan ni’n griw eitha’ agos. Dw i wedi gwneud gigs efo pawb sydd ar y lein-yp.”
Ei phrofedigaeth arw yn 2021 a barodd iddi benderfynu mentro i fyd comedi. “Mi wnes i golli Mam yn eitha’ sydyn, a dyna wnaeth fi feddwl bod bywyd yn rhy fyr, a mynd amdani efo’r stand-yp.”
Taith gomedi mewn bws mini
Fe fydd Caryl Burke yn ymuno â chriw o ddigrifwyr ar daith ‘Talent mewn Tafarn’ ddechrau mis Mawrth. Fe fyddan nhw’n teithio o’r gogledd i’r de mewn bws mini, dan arweiniad y diddanwr a’r actor Iwan John, yn gwneud gigs bob noson am wythnos, ac yn gwahodd dau ddigrifwr lleol arall ym mhob un canolfan. Dyma benllanw prosiect Talent Mewn Tafarn, a gafodd ei sefydlu gan ganolfan yr Egin, er mwyn helpu tafarndai cymunedol i drefnu digwyddiadau hwyliog dros y flwyddyn ddiwethaf.
Efallai y caiff Caryl hithau gyfle i gynnig llwyfan i sêr comedi’r dyfodol yn fuan. Yn ei gwaith bob dydd mae hi’n is-gynhyrchydd gyda chwmni teledu Cwmni Da a bu’n gweithio i gwmni Rondo cyn hynny am bedair blynedd. Mae wedi gweithio ar gyfresi fel FFIT Cymru a Canu gyda fy Arwr. Ar gychwyn Ionawr roedd hi’n dechrau gweithio am y tro cyntaf ar y gyfres boblogaidd a hir-sefydledig, Noson Lawen.
“Maen nhw’n cael ychydig o gomedi ar y rhaglen, ac roedd y cynhyrchydd yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at weld pwy fydda i’n gallu ffeindio ar gyfer hynna,” meddai. “Mae hynna’n eitha’ egseitin.”
- Bydd noson Laffwyl yn cael ei chynnal yn Nhafarn Fictoria Parc, Caerdydd nos Iau nesaf, 25 Ionawr