Lle ydach chi’n byw – yn y Deyrnas Unedig ynteu yn un o wledydd Prydain?

Os ydach chi’n dweud eich bod yn byw yn y Deyrnas Unedig – the United Kingdom – onid ydach chi’n cydnabod eich bod yn fodlon byw dan law teyrn/brenin?

Ar fwletinau’r BBC ac S4C mae sôn am Deyrnas Unedig, ac mae pobol yn cael eu dyfynnu yn y rhifyn yma o Golwg yn cyfeirio at y lle hwnnw.

Ond â hithau yn ddechrau blwyddyn newydd, beth am ddweud ein bod yn byw yng ngwledydd Prydain.