Ar ddechrau’r flwyddyn mae deiseb ddifyr wedi bod yn y penawdau, un sy’n gofyn am alw ein gwlad yn ‘Cymru’ yn unig – a gollwng unrhyw gyfeiriad at ‘Wales‘.

Ddechrau’r wythnos, roedd y ddeiseb i ddiddymu’r enw ‘Wales’ bron â chyrraedd y targed o 10,000 o lofnodion sydd eu hangen er mwyn iddi gael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.