Mae deiseb a grëwyd saith mis yn ôl i alw Cymru yn, wel, Cymru yn swyddogol (h.y. cael gwared â ‘Wales’) wedi sleifio i bron saith mil a hanner o lofnodwyr yn ddiweddar. Os bydd yn cyrraedd y deg, fe’i trafodir ar lawr y Senedd. Ac mae o wedi fy ngwneud i ychydig bach yn betrus, os dwi’n gwbl onest.