“Roedd e yn fy anian i fod yn greadigol” – meddai Andrew Teilo, sydd wedi bod yn rhan o gast Pobol y Cwm ers 30 mlynedd…  

“Tasen i yn gorfod dewis llwybr gyrfa eto, fi’n credu mai naill ai cerddor neu lenor fyddwn i.” Dyna ddywed Andrew Teilo.

Mae ei gyfrol gyntaf o storïau byrion, Pryfed Undydd, wedi cael cryn ganmoliaeth ers cael ei chyhoeddi cyn y Nadolig.