Mae yna fand go newydd ar y sîn sy’n creu miwsig electroneg sydd fel rhywbeth yn syth o’r 1980au.

Jason Childs o Fachynlleth a Sasha Jacobs o’r Trallwng yw National Milk Bar, a daethon nhw at ei gilydd i greu’r band yn ystod y cyfnod clo. Roedd y ddau eisoes mewn band steil ‘ska’ gyda’i gilydd, ond roedd eu cariad at fiwsig electroneg wedi’u tanio i ddechrau prosiect newydd sbon.