Allai’r un ddrama ddychmygol wedi bod mor ddirdynnol â’r rhaglenni seiliedig-ar-y-gwir am annhegwch anferth isbostfeistri Swyddfa’r Post.

Er mor anghredadwy oedd y digwyddiadau, roedd sylweddoli bod pobol go-iawn wedi ymddwyn mor giaidd yn ffyrnigo ein hymateb.

Ond, fel yr oedd ‘Mr Bates’ yn y ddrama – a’r dyn go-iawn yn ôl pob golwg – yr hyn sydd ei angen yn ymateb ydi dicter dan reolaeth.