Ar ddechrau blwyddyn newydd, carwn ategu sylwadau craff Dafydd Glyn Jones [‘Byd y blogiau’, Golwg 21/12/23] sef bod hen ddigon o dai yng Nghymru i ddiwallu anghenion y boblogaeth. Yn Sir Gaerfyrddin, mae dogfennau’r Cyngor Sir yn cydnabod bod mwy o bobl wedi marw na chael eu geni, bob blwyddyn ers 2000. Fel pob sir arall yng ngorllewin Cymru, rydym yn ymwybodol o’r allfudiad parhaus o bobl ifanc. O ystyried y ffactorau hyn, dylai’r boblogaeth fod wedi gostwng.