Mae’r Nadolig wedi hen fynd ond dyma’r cyfle cyntaf i mi gael rhannu rhai o fy argraffiadau o arlwy S4C dros yr ŵyl gyda chi.

Clod i’r comisiynwyr a’r amserlenwyr, roedd y cynnwys yn doreithiog ac amrywiol chwarae teg. Does gen i ddim sail ystadegol i ddweud hyn, ond roedd hi’n teimlo, i mi o leiaf, fel bod yna lai o ail ddarlledu hen “glasuron” na’r arfer. Efallai bod Fo a Fe wedi gwneud ymddangosiad cofiwch, ond fe lwyddais i i’w osgoi os wnaeth o.