Ychydig o ddirgelwch i fi ydi syndod a rhyfeddod cymaint o sylwebwyr gwleidyddol am gyhoeddiad Mark Drakeford ei fod yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog Cymru.

I fi, mae’r datganiad yn nodweddiadol o’r dyn: mi ddywedodd ei fod yn mynd tua rŵan, mi wnaeth benderfyniad clir, cyflym i osgoi rhagor o ddyfalu ac ymladd mewnol ac mi wnaeth y cyfan heb lawer o ffws nac ymgais i gael sylw personol.