Mae’r enw’n dweud y cyfan… The Elgin Marbles. Nid Cerfluniau’r Parthenon neu Gampweithiau Phidias ond darnau marmor lleidr.

Mae’r stori ei hun hefyd yn llawer mwy na’r manylion. Mae’r frwydr i ddychwelyd y trysorau 2,500 oed i Wlad Groeg yn cynrychioli llawer rhagor na’r mân gyfreithiau sy’n rheoli’r Amgueddfa Brydeinig.