Ddechrau’r wythnos roedd yna academydd yn siarad lot o sens ar y BBC.
Neges yr Athro Emeritws Stuart Cole oedd bod gwella trenau a bysus Cymru yn fwy o flaenoriaeth o’r hanner na chyflwyno’r terfyn 20 milltir yr awr.
Fe fydd unrhyw un sydd wedi ceisio dal bws neu ddioddef siwrne drên yn gwybod yn iawn fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r drol o flaen y ceffyl.
Yma yn nhopiau sir Gwynedd mae bysus o ddinas Bangor i dref Caernarfon yn medru bod yn syfrdanol o anwadal – loteri lwyr yw dibynnu ar amseroedd bysus swyddogol. Fedrwch chi fod yn aros am hanner awr am dri neu bedwar bws sydd i fod (yn ôl yr amserlen) i droi fyny, cyn bod y fflyd ddiarhebol o dri bws yn cyrraedd o fewn eiliadau i’w gilydd.
Ond os ydych chi eisiau dal bws i un o bentrefi gwledig Arfon, megis Nebo, anghofiwch hi.
A’r bws ‘T2’ o Fangor i Aberystwyth wedyn – tair awr a hanner i fynd un ffordd.
Os ydych chi am deithio o Fangor i Aber ac yn ôl mewn diwrnod, i fynychu cyfarfod, mae wynebu siwrne o saith awr i fynd yno ag yn ôl yn jôc.
A’r trenau enbyd wedyn – Bangor i Lundain (268 milltir) mewn tair awr ag ugain munud.
Bangor i Gaerdydd (180 milltir) – pedair awr a saith munud, ar ddiwrnod da.
Lee Waters ydy’r Dirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am drafnidiaeth ein gwlad.
A draw yn etholaeth Lee Waters, mae’r orsaf drenau a’r orsaf fysiau filltir ar wahân, ac yn rhyfeddol does yr un bws yn mynd o’r orsaf fysus i’r orsaf drenau… a does yr un bws yn mynd o’r orsaf reilffordd i unman!
Felly dyna’r shambyls o gyd-destun ar gyfer cyflwyno’r terfyn 20 milltir yr awr newydd.
“Mae’r llywodraeth wedi mynd ati yn y ffordd anghywir,” meddai Stuart Cole wrth y BBC.
“Nid yw’r hyn maen nhw wedi’i wneud ynddo’i hun yn syniad drwg, ond dylai cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus fod wedi’u gwella cyn i unrhyw ddeddfwriaeth gwrth-fodurwyr gael ei chyflwyno.”
Clywch clywch!
Diolch byth am Duolingo
Gadewch i ni gloi ar nodyn positif a throi at stori nad sy’n cythruddo.
Mae’r nifer sy’n mynd ati i gael crap ar y Gymraeg trwy app Duolingo wedi tyfu yn syfrdanol.
Bu cynnydd o 38% yn y nifer sy’n dysgu’r iaith drwy wersi ar yr app eleni, gan olygu fod dros dair miliwn wrthi ar Duolingo erbyn hyn, a hynny am y tro cyntaf erioed.
Dengys ymchwil mai rhyw 5% o’r rhai sy’n mynd ati yn oedolion i ddysgu siarad Cymraeg sy’n dod yn rhugl.
Felly, yn ôl y sỳms symlaf, mae tair miliwn Duolingo am olygu 150,000 o siaradwyr newydd.
Da iawn Duolingo!