Petawn i yn Llundain dros y Sul, mi faswn i wedi gorymdeithio ddwywaith.

Ddydd Sadwrn, mi fyddwn i wedi bod ar orymdaith i alw am heddwch yn Gaza a thegwch i’r Palestiniaid.

A, gan fod y ddau beth yn gwbl gyson, ddydd Sul mi fyddwn i wedi gorymdeithio eto i wrthwynebu gwrth-Semitiaeth.

Yn y ddau ddigwyddiad yna y mae drych o drychineb yr hyn sy’n digwydd yn y darn bychan yma o’r ddaear sy’n wystl i ddaearyddiaeth a hanes.