Mae tîm pêl-droed y merched wedi wynebu talcen caled ar haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd, ac mae’r ymgyrch yn dod i ben gyda dwy gêm fach flasus.

Daeth y garfan ynghyd ddechrau’r wythnos yng Ngwesty’r Vale i baratoi i herio Gwlad yr Iâ yng Nghaerdydd nos yfory, ac yna’r Almaen yn Abertawe nos Fawrth nesaf. Pob lwc ferched!