‘Ti fod yn cysgu!’ Dim ond y golau bach siâp madarchen ar y bwrdd bach ger y gwely oedd ynghyn, yn taflu golau oren, meddal dros Miri a’r llyfr yn ei dwylo. Yn y golau yna, edrychai ei gwallt fel niwl o gwmpas ei phen, pob blewyn golau ar ei drywydd ei hun. Edrychodd i fyny arna i, ei llygaid bach yn crefu arna i fod yn drugareddog er ei bod hi wedi cael ei dal.
‘O’n i methu cysgu.’