Mi wnes i ddysgu am farwolaeth un o arwyr pêl-droed Cymru yn ystod hanner amser y gêm yn erbyn Twrci’r wythnos ddiwethaf. Yn ôl y sgrin fawr yn Stadiwm Dinas Caerdydd, bu farw Mel ap Ior Thomas o Flaenau Ffestiniog yn 71 oed.

Mae’n debyg nad yw enw Mel yn gyfarwydd, ond os ydych chi’n gefnogwr pêl-droed Cymru rydych chi bendant wedi elwa o’i waith.