Y peth cyntaf sydd yn eich taro wrth wylio cyfres ddrama ddiweddaraf S4C, Pren ar y Bryn, yw ei bod hi’n edrych yn wych. Hynny yw, mae’r elfennau gweledol i gyd yn arbennig. Y lleoliadau, y gwaith cynllunio, y gwisgoedd, y gwalltiau… Pob manylyn. Gwledd i’r llygad.