Wrth i ni gamu fewn i fis ola’r flwyddyn, mae golygon y rhelyw yn troi at Siopa Dolig.

Bu siopa ar-lein yn dolc brwnt i fusnesau bach Cymru, ac maen nhw angen ein cefnogaeth yn fwy nag erioed yn dilyn dyddiau blin y pandemig.

I helpu’r achos, mae cynghorau sir yn cynnig parcio am ddim yn eu meysydd yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, a da o beth yw hynny.

Ond mae angen ymgyrch genedlaethol gan Lywodraeth Cymru yn annog pobol i siopa yn lleol.